Welsh

Ruth

1

1 Yn ystod y cyfnod pan oedd y barnwyr yn llywodraethu, bu newyn yn y wlad, ac aeth dyn o Fethlehem Jwda gyda'i wraig a'i ddau fab i fyw dros dro yng ngwlad Moab. 2 Elimelech oedd enw'r dyn, Naomi oedd enw ei wraig, a Mahlon a Chilion oedd enwau'r ddau fab. Effrateaid o Fethlehem Jwda oeddent, ac aethant i wlad Moab ac aros yno. 3 Ond bu farw Elimelech, gu373?r Naomi, a gadawyd hi'n weddw gyda'i dau fab. 4 Priododd y ddau � merched o Moab; Orpa oedd enw'r naill a Ruth oedd enw'r llall. Wedi iddynt fod yno tua deng mlynedd, 5 bu farw Mahlon a Chilion ill dau; a gadawyd y wraig yn amddifad o'i dau blentyn yn ogystal ag o'i gu373?r. 6 Penderfynodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith ddychwelyd o wlad Moab, oherwydd iddi glywed yno i'r ARGLWYDD ymweld �'i bobl a rhoi bwyd iddynt. 7 Gadawodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith y man lle'r oeddent, a chychwyn yn �l am wlad Jwda. 8 Ac meddai Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith, "Ewch yn �l adref, bob un at ei mam, y ddwy ohonoch; a bydded yr ARGLWYDD mor garedig wrthych chwi ag y buoch chwi wrth y rhai a fu farw ac wrthyf finnau, 9 a rhoi i'r ddwy ohonoch orffwysfa mewn cartref gyda gu373?r." Yna fe'u cusanodd, a dechreuodd y ddwy wylo'n uchel, 10 a dweud wrthi, "Ond yr ydym ni am ddychwelyd gyda thi at dy bobl." 11 Dywedodd Naomi, "Ewch adref, fy merched. Pam y dewch gyda mi? A oes gennyf fi ragor o feibion yn fy nghroth, iddynt ddod yn wu375?r i chwi? 12 Ewch yn �l, fy merched, oherwydd yr wyf fi'n rhy hen i gael gu373?r. Pe bawn i'n dweud bod gennyf obaith cael gu373?r heno, ac yna geni plant, 13 a fyddech chwi'n disgwyl nes iddynt dyfu? A fyddech yn ymgadw rhag priodi? Na, fy merched; y mae'n llawer chwerwach i mi nag i chwi am fod llaw yr ARGLWYDD yn f'erbyn i." 14 Wylodd y ddwy yn uchel eto; yna ffarweliodd Orpa �'i mam-yng-nghyfraith, ond glynodd Ruth wrthi. 15 A dywedodd Naomi, "Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn �l at ei phobl a'i duw; dychwel dithau ar ei h�l." 16 Ond meddai Ruth, "Paid �'m hannog i'th adael, na throi'n �l oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di'n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau. 17 Lle y byddi di farw, y byddaf finnau farw ac yno y'm cleddir. Fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, a rhagor, os bydd unrhyw beth ond angau yn ein gwahanu ni." 18 Gwelodd Naomi ei bod yn benderfynol o fynd gyda hi, ac fe beidiodd �'i hannog rhagor. 19 Aeth y ddwy ymlaen nes dod i Fethlehem; ac wedi iddynt gyrraedd, bu cyffro trwy'r holl dref o'u plegid, a'r merched yn gofyn, "Ai Naomi yw hon?" 20 Dywedodd hithau wrthynt, "Peidiwch �'m galw'n Naomi, galwch fi'n Mara; oherwydd bu'r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf. 21 Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr ARGLWYDD � mi'n �l yn wag. Pam y galwch fi'n Naomi, a'r ARGLWYDD wedi tystio i'm herbyn, a'r Hollalluog wedi dod � drwg arnaf?" 22 Fel hyn y dychwelodd Naomi o wlad Moab, a'i merch-yng-nghyfraith, Ruth y Foabes, gyda hi. Daethant i Fethlehem yn nechrau'r cynhaeaf haidd.