1 Yna dywedodd ei mam-yng-nghyfraith Naomi wrthi, "Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er dy les? 2 Yn awr, onid perthynas i ni yw Boas, y buost gyda'i lancesau? 3 Edrych, y mae ef yn mynd i nithio haidd yn y llawr dyrnu heno. Wedi iti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid � gadael iddo d'adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed. 4 Pan � i orwedd, sylwa ymhle y mae'n cysgu, yna dos a chodi'r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i'w wneud." 5 Cytunodd hithau i wneud y cwbl a ddywedodd Naomi wrthi. 6 Aeth at y llawr dyrnu, a gwneud yn union fel yr oedd ei mam-yng-nghyfraith wedi gorchymyn iddi. 7 Wedi i Boas fwyta ac yfed, yr oedd yn teimlo'n hapus, ac aeth i gysgu yng nghwr y pentwr u375?d. Daeth hithau'n ddistaw a chodi'r dillad o gwmpas ei draed, a gorwedd i lawr. 8 Tua hanner nos cyffr�dd y dyn a throi, ac yno'n gorwedd wrth ei draed yr oedd merch. 9 "Pwy wyt ti?" gofynnodd. Atebodd hithau, "Dy forwyn Ruth; taena gwr dy fantell dros dy forwyn, oherwydd yr wyt ti'n berthynas agos." 10 Yna dywedodd wrthi, "Bendith yr ARGLWYDD arnat, fy merch; y mae'r teyrngarwch olaf hwn gennyt yn rhagori ar y cyntaf, am iti beidio � mynd ar �l y dynion ifainc, boent dlawd neu gyfoethog. 11 Yn awr, fy merch, paid ag ofni; fe wnaf iti bopeth yr wyt yn ei ddweud, oherwydd y mae pawb o'm cymdogion yn gwybod dy fod yn ferch deilwng. 12 Yn awr, y mae'n hollol wir fy mod yn berthynas agos, ond y mae un arall sy'n nes na mi. 13 Aros yma heno; ac yfory, os bydd ef am weithredu fel perthynas, popeth yn iawn; gwnaed hynny. Ond os nad yw'n barod i wneud hynny, yna fe wnaf fi, cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw. Cwsg tan y bore." 14 Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu. 15 Ac meddai wrthi, "Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi." A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref. 16 Wedi iddi gyrraedd gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith, "Sut y bu hi gyda thi, fy merch?" Adroddodd hithau wrthi'r cwbl a wnaeth y dyn iddi. 17 Dywedodd, "Rhoddodd imi'r chwe mesur hyn o haidd oherwydd, meddai wrthyf, 'Ni chei fynd yn waglaw at dy fam-yng-nghyfraith'." 18 Yna dywedodd Naomi, "Aros, fy merch, nes y cei wybod sut y try pethau; oherwydd ni fydd y dyn yna'n gorffwys cyn gorffen y mater heddiw."