Welsh

Titus

2

1 Ond yr wyt ti i lefaru'r hyn sy'n gweddu i'r athrawiaeth iach. 2 Dywed wrth yr hynafgwyr am fod yn sobr, yn weddus, yn ddisgybledig, yn iach mewn ffydd a chariad a dyfalbarhad. 3 Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win; 4 dylent hyfforddi'r gwragedd ifainc yn y pethau gorau, a'u cymell i garu eu gwu375?r a charu eu plant, 5 i fod yn ddisgybledig a diwair, i ofalu am eu cartrefi, ac i fod yn garedig, ac yn ddarostyngedig i'w gwu375?r, fel na chaiff gair Duw enw drwg. 6 Yn yr un modd, cymell y dynion ifainc i arfer hunanddisgyblaeth. 7 Ym mhob peth dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da, ac wrth hyfforddi amlyga gywirdeb a gwedduster 8 a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom. 9 Cymell y caethweision i fod yn ddarostyngedig i'w meistri ym mhob peth, i wneud eu dymuniad, i beidio �'u hateb yn �10 na lladrata oddi arnynt, ond i'w dangos eu hunain yn gwbl ffyddlon a gonest, ac felly yn addurn ym mhob peth i athrawiaeth Duw, ein Gwaredwr. 11 Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, 12 gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol, 13 a disgwyl cyflawni'r gobaith gwyn-fydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist. 14 Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn s�l dros weithredoedd da. 15 Dywed y pethau hyn, a chymell a cherydda � phob awdurdod. Peidied neb �'th anwybyddu.