1 Yna dangosodd imi Josua yr archoffeiriad, yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw i'w gyhuddo. 2 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "Y mae'r ARGLWYDD yn dy geryddu di, Satan; yr ARGLWYDD, yr un a ddewisodd Jerwsalem, sy'n dy geryddu di. Onid marworyn wedi ei arbed o'r t�n yw hwn?" 3 Yr oedd Josua yn sefyll o flaen yr angel mewn dillad budron; 4 a dywedodd yr angel wrth ei osgordd, "Tynnwch y dillad budron oddi amdano." Dywedodd wrth Josua, "Edrych fel y symudais dy euogrwydd oddi wrthyt, ac fe'th wisgaf � gwisgoedd gwynion." 5 Dywedodd hefyd, "Rhodder twrban gl�n am ei ben"; a rhoesant dwrban gl�n am ei ben, a dillad amdano; ac yr oedd angel yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw. 6 Yna rhybuddiodd angel yr ARGLWYDD Josua a dweud, 7 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhu375? a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd. 8 Gwrando, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd ger dy fron, oherwydd arwyddion yw'r dynion hyn. Wele fi'n arwain allan fy ngwas, y Blaguryn. 9 Dyma'r garreg a osodaf o flaen Josua, carreg ac iddi saith llygad, ac wele fi'n egluro eu hystyr,' medd ARGLWYDD y Lluoedd. 'Symudaf ymaith euogrwydd y tir hwn mewn un diwrnod. 10 Y dydd hwnnw,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'byddwch yn gwahodd bob un ei gilydd i eistedd o dan ei winwydden ac o dan ei ffigysbren.'"