1只傳耶穌基督釘十字架弟兄們,我從前到你們那裡去,並沒有用高言大智向你們傳講 神的奧祕。
1 A minnau, pan ddeuthum atoch, gyfeillion, ni ddeuthum fel un yn rhagori mewn huodledd neu ddoethineb, wrth gyhoeddi i chwi ddirgelwch Duw.
2因為我曾立定主意,在你們中間甚麼都不想知道,只知道耶穌基督和他釘十字架的事。
2 Oherwydd dewisais beidio � gwybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, ac yntau wedi ei groeshoelio.
3我在你們那裡的時候,又軟弱又懼怕,而且戰戰兢兢;
3 Mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr y b�m i yn eich plith;
4我說的話、講的道,都不是用智慧的話去說服人,而是用聖靈和能力來證明,
4 a'm hymadrodd i a'm pregeth, nid geiriau deniadol doethineb oeddent, ond amlygiad sicr o'r Ysbryd a'i nerth,
5使你們的信不是憑著人的智慧,而是憑著 神的能力。
5 er mwyn i'ch ffydd fod yn seiliedig, nid ar ddoethineb ddynol, ond ar allu Duw.
6屬靈的人看透萬事然而在信心成熟的人中間,我們也講智慧,但不是這世代的智慧,也不是這世代將要滅亡的執政者的智慧。
6 Eto yr ydym ni yn llefaru doethineb ymhlith y rhai aeddfed, ond nid doethineb yr oes bresennol, na'r eiddo llywodraethwyr yr oes bresennol, sydd ar ddarfod amdanynt.
7我們所講的,是從前隱藏的、 神奧祕的智慧,就是 神在萬世以前,為我們的榮耀所預定的;
7 Ond yr ydym ni'n llefaru doethineb Duw a'i dirgelwch, doethineb guddiedig, a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i'n dwyn i'n gogoniant.
8這智慧,這世代執政的人沒有一個知道,如果他們知道,就不會把榮耀的主釘在十字架上了。
8 Nid adnabu neb o lywodraethwyr yr oes bresennol mo'r ddoethineb hon; oherwydd pe buasent wedi ei hadnabod, ni fuasent wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant.
9正如經上所記:“ 神為愛他的人所預備的,是眼睛未曾見過,耳朵未曾聽過,人心也未曾想到的。”
9 Ond fel y mae'n ysgrifenedig: "Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl neb, y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu."
10但 神卻藉著聖靈把這些向我們顯明了,因為聖靈測透萬事,連 神深奧的事也測透了。
10 Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae'r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw.
11除了在人裡面的靈,誰能知道人的事呢?同樣,除了 神的靈,也沒有人知道 神的事。
11 Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw.
12我們所領受的,不是這世界的靈,而是從 神來的靈,使我們能知道 神開恩賜給我們的事。
12 Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau a roddodd Duw o'i ras i ni.
13我們也講這些事,不是用人的智慧所教的言語,而是用聖靈所教的言語,向屬靈的人解釋屬靈的事(“向屬靈的人解釋屬靈的事”或譯:“用屬靈的話解釋屬靈的事”)。
13 Yr ydym yn mynegi'r rhain mewn geiriau a ddysgwyd i ni, nid gan ddoethineb ddynol, ond gan yr Ysbryd, gan esbonio pethau ysbrydol i'r rhai sydd yn meddu'r Ysbryd.
14然而屬血氣的人不接受 神的靈的事,因為他以為是愚笨的;而且他也不能夠明白,因為這些事,要有屬靈的眼光才能領悟。
14 Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu.
15屬靈的人能看透萬事,卻沒有人能看透他,
15 Y mae'r rhai ysbrydol yn barnu pob peth, ond ni ch�nt hwy eu barnu gan neb.
16如經上所記:“誰曾知道主的心意,能夠指教他呢?”但我們已經得著基督的心意了。
16 Yng ngeiriau'r Ysgrythur: "Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, i'w gyfarwyddo?" Ond y mae meddwl Crist gennym ni.