聖經新譯本

Welsh

Galatians

6

1信徒的責任弟兄們,如果有人陷在一些過犯裡,你們屬靈的人,要用溫柔的心使他回轉過來,自己卻要小心,免得也被引誘。
1 Gyfeillion, os caiff rhywun ei ddal mewn rhyw drosedd, eich gwaith chwi, y rhai ysbrydol, yw ei adfer mewn ysbryd addfwyn. Ond edrych atat dy hun, rhag ofn i tithau gael dy demtio.
2你們各人的重擔要互相擔當,這樣就成全了基督的律法。
2 Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly fe gyflawnwch Gyfraith Crist.
3如果有人本來沒有甚麼了不起,卻自以為是了不起的,就是欺騙自己。
3 Oherwydd, os yw rhywun yn tybio ei fod yn rhywbeth, ac yntau yn ddim, ei dwyllo ei hun y mae.
4各人應該省察自己所作的,這樣,他引以為榮的,就只在自己而不在別人了;
4 Y mae pob un i farnu ei waith ei hun, ac yna fe gaiff le i ymffrostio o'i ystyried ei hun yn unig, ac nid neb arall.
5因為各人的擔子,是要自己擔當的。
5 Oherwydd bydd gan bob un ei bwn ei hun i'w gario.
6在聖道上受教的,應該和施教的人分享自己的一切美物。
6 Y mae'r sawl sy'n cael ei hyfforddi yn y gair i roi cyfran o'i holl feddiannau i'w hyfforddwr.
7不要自欺, 神是不可輕慢的。人種的是甚麼,收的也是甚麼:
7 Peidiwch � chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.
8順著自己的肉體撒種的,必定從肉體收取敗壞;順著聖靈撒種的,必定從聖靈收取永生。
8 Bydd y sawl sy'n hau i'w gnawd ei hun yn medi o'i gnawd lygredigaeth, a'r sawl sy'n hau i'r Ysbryd yn medi o'r Ysbryd fywyd tragwyddol.
9我們行善,不要覺得厭煩;如果不鬆懈,到了適當的時候,就有收成。
9 Peidiwn � blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi'r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio � llaesu dwylo.
10所以,我們一有機會,就應該對眾人行善,對信徒更要這樣。
10 Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
11勸勉和祝福請看,我親手寫給你們的字是多麼的大。
11 Gwelwch mor fras yw'r llythrennau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch �'m llaw fy hun.
12那些在外表上要體面的人,他們勉強你們受割禮,不過是怕為了基督的十字架受迫害。
12 Rhai �'u bryd ar rodres yn y cnawd yw'r rheini sy'n ceisio eich gorfodi i dderbyn enwaediad, a hynny'n unig er mwyn iddynt hwy arbed cael eu herlid o achos croes Crist.
13那些受割禮的人,自己也不遵守律法,反而要你們受割禮,為的是要藉著你們的肉身誇口。
13 Oherwydd nid yw'r rhai a enwaedir eu hunain hyd yn oed yn cadw'r Gyfraith. Y maent am i chwi dderbyn enwaediad er mwyn iddynt hwy gael ymffrostio yn eich cnawd chwi.
14至於我,我絕不以別的誇口,只誇我們主耶穌基督的十字架。藉著這十字架,在我來說,世界已經釘在十字架上了;就世界來說,我也已經釘在十字架上了。
14 O'm rhan fy hun, cadwer fi rhag ymffrostio mewn dim ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, y groes y mae'r byd drwyddi wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd.
15受割禮或不受割禮,都算不得甚麼,要緊的是作新造的人。
15 Nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond creadigaeth newydd.
16所有照這準則而行的人,願平安憐憫臨到他們,就是臨到 神的以色列。
16 A phawb fydd yn rhodio wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ie, ar Israel Duw!
17從今以後,誰也不要攪擾我,因為我身上帶著耶穌的烙痕。
17 Peidied neb bellach � pheri blinder imi, oherwydd yr wyf yn dwyn nodau Iesu yn fy nghorff.
18弟兄們,願我們主耶穌基督的恩惠與你們同在(“與你們同在”原文作“與你們的心靈同在”)。阿們。
18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd, gyfeillion! Amen.