聖經新譯本

Welsh

John

9

1治好生來瞎眼的人耶穌走路的時候,看見一個生下來就瞎眼的人。
1 Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth.
2他的門徒問他:“拉比,這人生下來就瞎眼,是誰犯了罪?是他呢,還是他的父母呢?”
2 Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, "Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?"
3耶穌回答:“不是他犯了罪,也不是他的父母犯了罪,而是要在他身上彰顯 神的作為。
3 Atebodd Iesu, "Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef.
4趁著白晝,我們必須作那差我來者的工;黑夜一到,就沒有人能作工了。
4 Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio.
5我在世上的時候,是世界的光。”
5 Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf."
6說了這話,就吐唾沫在地上,用唾沫和了一點泥,把泥抹在瞎子的眼睛上,
6 Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn �'r clai,
7對他說:“你去西羅亞池洗一洗吧。”(西羅亞就是“奉差遣”的意思。)於是他就去了,洗完了,走的時候,就看見了。
7 ac meddai wrtho, "Dos i ymolchi ym mhwll Siloam" (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn �l yr oedd yn gweld.
8那時,鄰居和以前常常見他討飯的人說:“這不是那一向坐著討飯的人嗎?”
8 Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, "Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?"
9有的說:“是他。”有的說:“不是他,只是像他。”他自己說:“是我。”
9 Meddai rhai, "Hwn yw ef." "Na," meddai eraill, "ond y mae'n debyg iddo." Ac meddai'r dyn ei hun, "Myfi yw ef."
10他們就問他:“你的眼睛是怎樣開的呢?”
10 Gofynasant iddo felly, "Sut yr agorwyd dy lygaid di?"
11他回答:“那名叫耶穌的人和了一點泥,抹在我的眼上,對我說:‘你去西羅亞池洗一洗吧。’我去一洗,就看見了。”
11 Atebodd yntau, "Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid a dweud wrthyf, 'Dos i Siloam i ymolchi.' Ac wedi imi fynd yno ac ymolchi, cefais fy ngolwg."
12他們說:“那人在哪裡?”他說:“我不知道。”
12 Gofynasant iddo, "Ble mae ef?" "Ni wn i," meddai yntau.
13法利賽人查問瞎眼的人他們就把那個從前瞎眼的人帶到法利賽人那裡。
13 Aethant �'r dyn oedd wedi bod gynt yn ddall at y Phariseaid.
14耶穌和了泥開他眼睛的那一天,正是安息日。
14 Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw pan wnaeth Iesu glai ac agor llygaid y dyn.
15法利賽人又問他是怎樣可以看見的。他告訴他們:“耶穌把泥抹在我的眼上,我一洗就看見了。”
15 A dyma'r Phariseaid yn gofyn iddo eto sut yr oedd wedi cael ei olwg. Ac meddai wrthynt, "Rhoddodd glai ar fy llygaid ac ymolchais, a dyma fi'n gweld."
16有幾個法利賽人說:“那個人不是從 神那裡來的,因為他不守安息日。”另外有些人說:“一個罪人怎能行這樣的神蹟呢?”他們就起了紛爭。
16 Felly dywedodd rhai o'r Phariseaid, "Nid yw'r dyn hwn o Dduw; nid yw'n cadw'r Saboth." Ond meddai eraill, "Sut y gall dyn sy'n bechadur wneud y fath arwyddion?" Ac yr oedd ymraniad yn eu plith,
17他們再對瞎子說:“他既然開了你的眼睛,你說他是甚麼人?”他說:“他是個先知。”
17 a dyma hwy'n gofyn eto i'r dyn dall, "Beth sydd gennyt ti i'w ddweud amdano ef, gan iddo agor dy lygaid di?" Atebodd yntau, "Proffwyd yw ef."
18猶太人不信他從前是瞎眼,現在才能看見的,於是把他的父母叫來,
18 Gwrthododd yr Iddewon gredu amdano iddo fod yn ddall a derbyn ei olwg, nes iddynt alw rhieni'r dyn
19問他們:“這是你們所說那生下來就瞎眼的兒子嗎?現在他怎麼又能看見呢?”
19 a'u holi hwy: "Ai hwn yw eich mab chwi? A ydych chwi'n dweud ei fod wedi ei eni'n ddall? Sut felly y mae'n gweld yn awr?"
20他的父母回答:“我們知道他是我們的兒子,生下來就瞎眼;
20 Atebodd ei rieni, "Fe wyddom mai hwn yw ein mab a'i fod wedi ei eni'n ddall.
21現在他是怎樣可以看見的,我們不知道;誰開了他的眼睛,我們也不知道。你們問他吧;他已經長大成人,可以替自己講話了。”
21 Ond ni wyddom sut y mae'n gweld yn awr, ac ni wyddom pwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo ef. Y mae'n ddigon hen. Caiff ateb drosto'i hun."
22他的父母這樣說,是因為怕猶太人,原來猶太人已經定好了,不論誰承認耶穌是基督,就要把那人趕出會堂。
22 Atebodd ei rieni fel hyn am fod arnynt ofn yr Iddewon, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno bod unrhyw un a fyddai'n cyffesu Iesu fel Meseia i gael ei dorri allan o'r synagog.
23因此他的父母說:“他已經長大成人,你們問他吧。”
23 Dyna pam y dywedodd ei rieni, "Y mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo ef."
24於是法利賽人第二次把那從前瞎眼的人叫來,對他說:“你應當歸榮耀給 神,我們知道這人是個罪人。”
24 Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, "Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn."
25那人回答:“他是不是個罪人,我不知道;我只知道一件事,就是我本來是瞎眼的,現在能看見了。”
25 Atebodd yntau, "Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld."
26他們就問:“他向你作了甚麼呢?他怎樣開了你的眼睛呢?”
26 Meddent wrtho, "Beth wnaeth ef iti? Sut yr agorodd ef dy lygaid di?"
27他回答:“我已經告訴你們,但是你們不聽;為甚麼現在又想聽呢?你們也想成為他的門徒嗎?”
27 Atebodd hwy, "Rwyf wedi dweud wrthych eisoes, ond nid ydych wedi gwrando. Pam yr ydych mor awyddus i glywed y peth eto? Does bosibl eich bod chwi hefyd yn awyddus i fod yn ddisgyblion iddo?"
28他們就罵他,說:“你才是他的門徒,我們是摩西的門徒。
28 Ar hyn, dyma hwy'n ei ddifr�o ac yn dweud wrtho, "Ti sy'n ddisgybl i'r dyn. Disgyblion Moses ydym ni.
29我們知道 神曾對摩西說話;只是這個人,我們不知道他從哪裡來。”
29 Fe wyddom fod Duw wedi llefaru wrth Moses, ond am y dyn hwn, ni wyddom o ble y mae wedi dod."
30那人對他們說:“這就奇怪了,他開了我的眼睛,你們竟然不知道他從哪裡來。
30 Atebodd y dyn hwy, "Y peth rhyfedd yw hyn, na wyddoch chwi o ble y mae wedi dod, ac eto fe agorodd ef fy llygaid i.
31我們知道 神不聽罪人的祈求,只聽那敬畏 神,遵行他旨意的人。
31 Fe wyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond ei fod yn gwrando ar unrhyw un sy'n dduwiol ac yn gwneud ei ewyllys ef.
32自古以來,沒有人聽過生下來就是瞎眼的,有人可以開他們的眼睛。
32 Ni chlywyd erioed fod neb wedi agor llygaid rhywun oedd wedi ei eni'n ddall.
33這人若不是從 神那裡來的,他就不能作甚麼。”
33 Oni bai fod y dyn hwn o Dduw, ni allai wneud dim."
34他們說:“你的確是在罪中生的,還敢教訓我們嗎?”就把他趕出去。
34 Atebodd y Phariseaid ef, "Fe'th aned di yn gyfan gwbl mewn pechod, ac a wyt ti yn ein dysgu ni?" Yna taflasant ef allan.
35耶穌聽見他們把他趕出去,後來遇見他的時候,就對他說:“你信人子嗎?”
35 Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, "A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?"
36他說:“先生,誰是人子,好讓我信他呢?”
36 Atebodd yntau, "Pwy yw ef, syr, er mwyn imi gredu ynddo?"
37耶穌說:“你已經見過他,現在跟你說話的就是他。”
37 Meddai Iesu wrtho, "Yr wyt wedi ei weld ef. Yr un sy'n siarad � thi, hwnnw yw ef."
38那人說:“主啊,我信。”就向他下拜。
38 "Yr wyf yn credu, Arglwydd," meddai'r dyn, gan ymgrymu o'i flaen.
39耶穌說:“我到這世上來是為了審判,使那看不見的能夠看見,能看見的反而成了瞎眼的。”
39 A dywedodd Iesu, "I farnu y deuthum i i'r byd hwn, er mwyn i'r rhai nad ydynt yn gweld gael gweld, ac i'r rhai sydd yn gweld fynd yn ddall."
40有些和耶穌在一起的法利賽人聽了這話,就說:“難道我們也是瞎眼的嗎?”
40 Clywodd rhai o'r Phariseaid oedd yno gydag ef hyn, ac meddent wrtho, "A ydym ni hefyd yn ddall?"
41耶穌對他們說:“如果你們是瞎眼的,就沒有罪了;但現在你們說‘我們能看見’,所以你們還是有罪的。”
41 Atebodd Iesu hwy: "Pe baech yn ddall, ni byddai gennych bechod. Ond am eich bod yn awr yn dweud, 'Yr ydym yn gweld', y mae eich pechod yn aros.