聖經新譯本

Welsh

Mark

8

1給四千人吃飽的神蹟(太15:32~39)那些日子,又有一大群人聚集,他們沒有甚麼東西吃。耶穌叫門徒來,對他們說:
1 Yn y dyddiau hynny, a'r dyrfa unwaith eto'n fawr a heb ddim i'w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac meddai wrthynt,
2“我憐憫這一群人,因為他們和我在一起已經有三天,沒有甚麼吃的了。
2 "Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta.
3如果我叫他們散開,餓著肚子回家去,他們會在路上暈倒,因為有人是從很遠的地方來的。”
3 Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell."
4門徒回答:“在這曠野地方,從哪裡能找食物叫這些人吃飽呢?”
4 Atebodd ei ddisgyblion ef, "Sut y gall neb gael digon o fara i fwydo'r rhain mewn lle anial fel hyn?"
5他問他們:“你們有多少餅?”他們說:“七個。”
5 Gofynnodd iddynt, "Pa sawl torth sydd gennych?" "Saith," meddent hwythau.
6耶穌吩咐群眾坐在地上;拿起那七個餅,祝謝了,擘開遞給門徒,叫他們擺開;門徒就擺在眾人面前,
6 Gorch-mynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron; ac fe'u gosodasant gerbron y dyrfa.
7他們還有幾條小魚,耶穌祝了福,就吩咐把這些也擺開。
7 Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron.
8眾人都吃了,並吃飽了。他們把剩下的零碎收拾起來,裝滿了七個大籃子。
8 Bwytasant a chael digon, a chodasant y tameidiau oedd yn weddill, lond saith cawell.
9當時人數約有四千。耶穌解散了群眾,
9 Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith.
10就立刻和門徒上了船,來到大瑪努他地區。
10 Ac yna aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha.
11求耶穌顯神蹟(太16:1~4)法利賽人出來,跟耶穌辯論;他們想試探他,求他顯個從天上來的神蹟。
11 Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno.
12耶穌靈裡深深地歎息,說:“這世代為甚麼總是尋求神蹟?我實在告訴你們,決不會有神蹟顯給這個世代的!”
12 Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. "Pam," meddai, "y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon."
13於是他離開他們,又上船往對岸去了。
13 A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.
14提防法利賽人和希律的酵(太16:5~12)門徒忘了帶餅,船上除了一個餅,身邊沒有別的了。
14 Yr oeddent wedi anghofio dod � bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch.
15耶穌囑咐他們說:“你們要小心,提防法利賽人的酵和希律的酵!”
15 A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, "Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod."
16門徒彼此議論說:“這是因為我們沒有餅吧?”
16 Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara.
17耶穌知道了,就說:“為甚麼議論沒有餅這件事呢?你們還不知道,還不明白嗎?你們的心還是這麼遲鈍嗎?
17 Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig?
18你們有眼不能看,有耳不能聽嗎?你們不記得嗎?
18 A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio?
19我擘開那五個餅給五千人吃,你們收拾的零碎裝滿了幾個籃子呢?”他們說:“十二個。”
19 Pan dorrais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?" Meddent wrtho, "Deuddeg."
20“那七個餅分給四千人吃,你們收拾的零碎裝滿了幾個大籃子呢?”他們說:“七個。”
20 "Pan dorrais y saith i'r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?" "Saith," meddent.
21耶穌說:“你們還不明白嗎?”
21 Ac meddai ef wrthynt, "Onid ydych eto'n deall?"
22治好伯賽大瞎眼的人後來他們到了伯賽大,有人帶了一個瞎眼的人到他跟前,求耶穌摸他。
22 Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod � dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef.
23耶穌拉著他的手,領他到村外,吐唾沫在他的眼睛上,又用雙手按在他的身上,問他:“你看見甚麼沒有?”
23 Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, "A elli di weld rhywbeth?"
24他往上一看,說:“我看見人了!看見他們好像樹走來走去。”
24 Edrychodd i fyny, ac meddai, "Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch."
25於是耶穌再按手在他的眼睛上,他定睛一看,就復原了,樣樣都看得清楚了。
25 Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell.
26耶穌叫他回家去,說:“連這村子你也不要進去。”
26 Anfonodd ef adref, gan ddweud, "Paid � mynd i mewn i'r pentref."
27彼得承認耶穌是基督(太16:13~16、20;路9:18~21)耶穌和門徒出去,要到該撒利亞.腓立比附近的村莊。在路上他問門徒說:“人說我是誰?”
27 Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: "Pwy," meddai wrthynt, "y mae pobl yn dweud ydwyf fi?"
28他們回答:“有人說是施洗的約翰;有人說是以利亞;還有人說是先知裡的一位。”
28 Dywedasant hwythau wrtho, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi."
29他又問他們說:“那麼你們呢?你們說我是誰?”彼得回答:“你就是基督。”
29 Gofynnodd ef iddynt, "A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?" Atebodd Pedr ef, "Ti yw'r Meseia."
30耶穌鄭重地囑咐他們,不要把他的事告訴人。
30 Rhybuddiodd hwy i beidio � dweud wrth neb amdano.
31耶穌預言受難及復活(太16:21~28;路9:22~27)於是他教導他們,人子必須受許多苦,被長老、祭司長和經學家棄絕、殺害,三天後復活。
31 Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi.
32耶穌坦白地說了這話,彼得就把他拉到一邊,責怪他。
32 Yr oedd yn llefaru'r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu.
33耶穌轉過身來,望著門徒,斥責彼得說:“撒但,退到我後面去!因為你不思念 神的事,只思念人的事。”
33 Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. "Dos ymaith o'm golwg, Satan," meddai, "oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol."
34於是把眾人和門徒都叫過來,對他們說:“如果有人願意跟從我,就應當捨己,背起他的十字架來跟從我。
34 Galwodd ato'r dyrfa ynghyd �'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, "Os myn neb ddod ar fy �l i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.
35凡是想救自己生命的,必喪掉生命;但為我和福音犧牲生命的,必救了生命。
35 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw.
36人就是賺得全世界,卻賠上自己的生命,有甚麼好處呢?
36 Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd?
37人還能用甚麼換回自己的生命呢?
37 Oherwydd beth a all rhywun ei roi'n gyfnewid am ei fywyd?
38在淫亂罪惡的世代,凡把我和我的道當作可恥的,人子在他父的榮耀裡,和聖天使一起降臨的時候,也必把他當作可恥的。”
38 Pwy bynnag fydd � chywilydd ohonof fi ac o'm geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd ar Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonynt hwy, pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd."