1求耶穌顯神蹟(可8:11~13)法利賽人和撒都該人前來試探耶穌,求他顯個從天上來的神蹟給他們看。
1 Daeth y Phariseaid a'r Sadwceaid ato, ac i roi prawf arno gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2耶穌回答:“黃昏的時候,你們說:‘天色通紅,明天一定是晴天。’
2 Ond atebodd ef hwy, "Gyda'r nos fe ddywedwch, 'Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.'
3早上的時候,你們說:‘天色又紅又暗,今天一定有風雨。’你們知道分辨天色,卻不能分辨時代的徵兆嗎?
3 Ac yn y bore, 'Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.' Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau.
4邪惡和淫亂的世代要尋求神蹟,除了約拿的神蹟之外,不會有甚麼神蹟給它了。”耶穌就離開他們走了。
4 Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona." A gadawodd hwy a mynd ymaith.
5提防法利賽人等的教訓(可8:14~21)門徒到了對岸,忘記了帶餅。
5 Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod � bara.
6耶穌對他們說:“你們要小心,提防法利賽人和撒都該人的酵。”
6 Meddai Iesu wrthynt, "Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid."
7他們就彼此議論說:“這是因為我們沒有帶餅吧。”
7 Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, "Ni ddaethom � bara."
8耶穌知道了,就說:“小信的人,為甚麼議論沒有餅這件事呢?
8 Deallodd Iesu a dywedodd, "Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld?
9你們還不明白嗎?你們是不是忘記了那五個餅分給五千人,又裝滿了多少個籃子呢?
9 Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
10還是忘記了那七個餅分給四千人,又裝滿了多少個大籃子呢?
10 Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch?
11我對你們講的不是餅的事,你們為甚麼不明白?你們要提防法利賽人和撒都該人的酵。”
11 Sut na welwch nad ynglu375?n � bara y dywedais wrthych? Gochelwch, meddaf, rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid."
12這時他們才領會耶穌說的不是要提防餅酵,而是要提防法利賽人和撒都該人的教訓。
12 Yna y deallasant iddo lefaru nid am ochel rhag surdoes y torthau, ond rhag yr hyn a ddysgai'r Phariseaid a'r Sadwceaid.
13彼得承認耶穌是基督(可8:27~29;路9:18~20)耶穌來到該撒利亞.腓立比的地區,就問自己的門徒:“人說人子是誰?”
13 Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: "Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?"
14他們回答:“有人說是施洗的約翰,有人說是以利亞,也有人說是耶利米,或是先知裡的一位。”
14 Dywedasant hwythau, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi."
15他問他們:“你們說我是誰?”
15 "A chwithau," meddai wrthynt, "pwy meddwch chwi ydwyf fi?"
16西門.彼得回答:“你是基督,是永生 神的兒子。”
16 Atebodd Simon Pedr, "Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw."
17耶穌對他說:“約拿的兒子西門,你是有福的,因為這不是人(“人”原文作“肉和血”)指示你的,而是我在天上的父啟示你的。
17 Dywedodd Iesu wrtho, "Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd.
18我告訴你,你是彼得,我要在這磐石上建立我的教會,死亡的權勢(“死亡的權勢”原文作“陰間的門”)不能勝過他。
18 Ac 'rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni.
19我要把天國的鑰匙給你,你在地上捆綁的,在天上也被捆綁;你在地上釋放的,在天上也被釋放。”
19 Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd."
20於是耶穌吩咐門徒不可對人說他就是基督。
20 Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio � dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.
21耶穌預言受難及復活(可8:31~9:1;路9:22~27)從那時起,耶穌開始向門徒指出,他必須往耶路撒冷去,受長老、祭司長和經學家許多的苦害,並且被殺,第三天復活。
21 O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.
22彼得就把他拉到一邊,責怪他說:“主啊,千萬不可這樣,這事一定不會發生在你身上的。”
22 A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, "Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti."
23耶穌轉過來對彼得說:“撒但!退到我後面去!你是絆倒我的,因為你不思念 神的事,只思念人的事。”
23 Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, "Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol."
24於是耶穌對門徒說:“如果有人願意跟從我,就當捨己,背起他的十字架來跟從我。
24 Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, "Os myn neb ddod ar fy �l i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.
25凡是想救自己生命的,必喪掉生命;但為我犧牲生命的,必得著生命。
25 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.
26人若賺得全世界,卻賠上自己的生命,有甚麼好處呢?人還能用甚麼換回自己的生命呢?
26 Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?
27人子要在父的榮耀裡和眾天使一同降臨,那時他要照各人的行為報應各人。
27 Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe d�l i bob un yn �l ei ymddygiad.
28我實在告訴你們,站在這裡的,有人在沒有嘗過死味以前,必要看見人子帶著他的國降臨。”
28 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas."