聖經新譯本

Welsh

Matthew

2

1占星家朝拜耶穌希律王執政的時候,耶穌生在猶太的伯利恆。那時,有幾個占星家從東方來到耶路撒冷,
1 Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem
2說:“那生下來作猶太人的王的在哪裡?我們看見他的星出現,特來朝拜他。”
2 a holi, "Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli."
3希律王聽見了就心裡不安,全耶路撒冷的居民也是這樣。
3 A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef.
4他就召集所有的祭司長和民間的經學家,問他們基督應該生在哪裡。
4 Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni.
5他們回答:“在猶太的伯利恆。因為有先知在經上這樣說:
5 Eu hateb oedd, "Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd:
6‘猶大地的伯利恆啊!你在猶大的領袖中,並不是最小的,因為必有一位領袖從你那裡出來,牧養我的子民以色列。’”
6 'A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda, nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda, canys ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.'"
7希律暗中把占星家召來,仔細查問他們,那顆星甚麼時候出現,
7 Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy'n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos.
8然後派他們到伯利恆去,說:“你們去細心尋訪那小孩,找到了就向我報告,好叫我也去拜他。”
8 Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, "Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli."
9他們聽命去了。他們在東方看見的那顆星,忽然在他們前頭,領他們到那小孩所在的地方,就在上頭停住了。
9 Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma'r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw'r man lle'r oedd y plentyn.
10他們看見那顆星,歡喜極了;
10 A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben.
11進了房子,看見小孩和他母親馬利亞,就俯伏拜他,並且打開寶盒,把黃金、乳香、沒藥作禮物獻給他。
11 Daethant i'r tu375? a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr.
12後來他們在夢中得著指示不要回到希律那裡去,就從別的路回鄉去了。
12 Yna, ar �l cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio � dychwelyd at Herod, aethant yn �l i'w gwlad ar hyd ffordd arall.
13逃往埃及他們走了以後,主的使者在夢中向約瑟顯現,說:“起來,帶著孩子和他母親逃到埃及去,留在那裡,直到我再指示你,因為希律要尋找這孩子,把他殺掉。”
13 Wedi iddynt ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, a dweud, "Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a ffo i'r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd."
14約瑟就起來,連夜帶著孩子和他母親往埃及去,
14 Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i'r Aifft.
15住在那裡,直到希律死了,為的是要應驗主藉先知所說的:“我從埃及召我的兒子出來。”
15 Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: "O'r Aifft y gelwais fy mab."
16屠殺嬰孩希律見自己被占星家愚弄了,就大怒,於是照著他從占星家所問得的日子,下令把伯利恆和附近地方,兩歲以下的小孩全都殺死。
16 Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a'r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o'r amser yr holodd ef y seryddion.
17這就應驗了耶利米先知所說的:
17 Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd:
18“在拉瑪聽見有聲音,是痛哭、極大哀號的聲音;拉結為她的兒女哀哭,不肯受安慰,因為他們都不在了。”
18 "Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy."
19從埃及回來希律死後,在埃及,主的使者在夢中向約瑟顯現,
19 Ar �l i Herod farw, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft,
20說:“那些要殺害這孩子的人已經死了。起來,帶著孩子和他母親回以色列地去吧。”
20 gan ddweud, "Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn."
21約瑟就起來,帶著小孩子和他母親回到以色列地。
21 Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef, a mynd i wlad Israel.
22只是聽見亞基老接續他父親希律作了猶太王,他就不敢到猶太地去;又在夢中得了指示,於是往加利利境去,
22 Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, daeth ofn ar Joseff fynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd, ac ymadawodd i barthau Galilea,
23來到拿撒勒城住下,這樣就應驗了先知所說的:“他必稱為拿撒勒人。”
23 ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: "Gelwir ef yn Nasaread."