聖經新譯本

Welsh

Matthew

22

1婚筵的比喻(路14:16~24)耶穌又用比喻對他們說:
1 A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion.
2“天國好像一個王,為兒子擺設婚筵。
2 "Y mae teyrnas nefoedd," meddai, "yn debyg i frenin, a drefnodd wledd briodas i'w fab.
3他派僕人去叫被邀請的人來參加婚筵。但他們不肯來。
3 Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod.
4他再派另一些僕人去,說:‘你們告訴被邀請的人,我已經預備好了筵席,公牛和肥畜已經宰了,一切都預備妥當。來參加婚筵吧!’
4 Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, 'Dywedwch wrth y gwahoddedigion, "Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior."'
5但那些人卻不理會就走了;有的去耕田,有的去作買賣,
5 Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach.
6其餘的抓住王的僕人,凌辱他們,並且把他們殺了。
6 A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd.
7王就發怒,派兵消滅那些兇手,焚毀他們的城。
7 Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref.
8然後對僕人說:‘婚筵已經預備好了,只是被邀請的人不配。
8 Yna meddai wrth ei weision, 'Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng.
9所以你們要到大路口,凡遇見的,都請來參加婚筵。’
9 Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.'
10“那些僕人就走到街上,把所有遇見的,不論好人壞人,都招聚了來,婚筵上就坐滿了人。
10 Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.
11王進來與赴筵的人見面,看見有一個人沒有穿著婚筵的禮服,
11 Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano.
12就對他說:‘朋友,你沒有婚筵的禮服,怎能進到這裡來呢?’他就無話可說。
12 Meddai wrtho, 'Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?' A thrawyd y dyn yn fud.
13於是王對侍從說:‘把他的手和腳都綁起來,丟到外面的黑暗裡,在那裡必要哀哭切齒。’
13 Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, 'Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.'
14因為被召的人多,選上的人少。”
14 Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol."
15以納稅的事問難耶穌(可12:13~17;路20:20~26)法利賽人就去商量,怎樣找耶穌的話柄來陷害他。
15 Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air.
16他們派了自己的門徒和希律黨的人一同去問耶穌:“老師,我們知道你為人誠實,照著真理把 神的道教導人,不顧忌任何人,因為你不徇情面。
16 A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, "Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol �'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.
17請把你的意見告訴我們,納稅給凱撒,可不可以呢?”
17 Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?"
18耶穌看出他們的惡意,就說:“虛偽的人,為甚麼試探我呢?
18 Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, "Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?
19拿納稅的錢幣給我看看。”他們就拿了一個銀幣給他。
19 Dangoswch i mi ddarn arian y dreth." Daethant � darn arian iddo,
20耶穌問他們:“這是誰的像,誰的名號?”
20 ac meddai ef wrthynt, "Llun ac arysgrif pwy sydd yma?"
21他們回答:“凱撒的。”他就對他們說:“凱撒的應當歸給凱撒, 神的應當歸給 神。”
21 Dywedasant wrtho, "Cesar." Yna meddai ef wrthynt, "Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw."
22他們聽了,十分驚奇,就離開他走了。
22 Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.
23人復活後不娶不嫁(可12:18~27;路20:27~40)撒都該人向來認為沒有復活的事。那一天,他們前來問耶穌:
23 Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.
24“老師,摩西說:‘如果一個人死了,沒有兒女,他的弟弟應該娶他的妻子,為哥哥立後。’
24 Gofynasant iddo, "Athro, dywedodd Moses, 'Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.'
25從前我們這裡有兄弟七人,頭一個結了婚,沒有孩子就死了,留下妻子給他的弟弟。
25 Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd.
26第二個、第三個直到第七個都是這樣。
26 A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed.
27最後,那女人也死了。
27 Yn olaf oll bu farw'r wraig.
28那麼,復活的時候,她是這七個人中哪一個的妻子呢?因為他們都娶過她。”
28 Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig prun o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig."
29耶穌回答他們:“你們錯了,因為你們不明白聖經,也不曉得 神的能力。
29 Atebodd Iesu hwy, "Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.
30復活的時候,人們也不娶也不嫁,而是像天上的使者一樣。
30 Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef.
31關於死人復活的事, 神對你們講過:‘我是亞伯拉罕的 神,以撒的 神,雅各的 神’,你們沒有念過嗎? 神不是死人的 神,而是活人的 神。”
31 Ond ynglu375?n ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw,
32
32 'Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf'? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw."
33群眾聽了他的教訓,就十分詫異。
33 A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.
34最重要的誡命(可12:28~31)法利賽人聽見耶穌使撒都該人無話可說,就聚集在一起。
34 Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.
35他們中間有一個律法家,試探耶穌說:
35 Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,
36“老師,律法中哪一條誡命是最重要的呢?”
36 "Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?"
37他回答:“你要全心、全性、全意愛主你的 神。
37 Dywedodd Iesu wrtho, "'C�r yr Arglwydd dy Dduw �'th holl galon ac �'th holl enaid ac �'th holl feddwl.'
38這是最重要的第一條誡命。
38 Dyma'r gorchymyn cyntaf a phwysicaf.
39第二條也和它相似,就是要愛人如己。
39 Ac y mae'r ail yn debyg iddo: 'C�r dy gymydog fel ti dy hun.'
40全部律法和先知書,都以這兩條誡命作為根據。”
40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu."
41基督是大衛的子孫(可12:35~37;路20:41~44)法利賽人聚在一起的時候,耶穌問他們:
41 Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,
42“你們對基督的看法怎樣?他是誰的子孫呢?”他們回答:“大衛的子孫。”
42 "Beth yw eich barn chwi ynglu375?n �'r Meseia? Mab pwy ydyw?" "Mab Dafydd," meddent wrtho.
43耶穌就說:“那麼大衛被聖靈感動,怎麼會稱他為主呢?他說:
43 "Sut felly," gofynnodd Iesu, "y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed:
44‘主對我的主說:你坐在我的右邊,等我把你的仇敵放在你的腳下。’
44 'Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed "'?
45“大衛既然稱他為主,他怎麼又是大衛的子孫呢?”
45 Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?"
46沒有人能夠回答他。從那天起,也沒有人敢再問他。
46 Ac nid oedd neb yn gallu ateb gair iddo, ac o'r diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb ei holi ddim mwy.