聖經新譯本

Welsh

Matthew

23

1經學家和法利賽人有禍了(可12:38~39;路20:45~46)那時,耶穌對群眾和他的門徒說:
1 Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion.
2“經學家和法利賽人坐在摩西的座位上,
2 Dywedodd: "Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses.
3所以凡他們吩咐你們的,你們都要遵守,但不可效法他們的行為,因為他們只會說而不去作。
3 Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch � dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu.
4他們把重擔捆起來,壓在人的肩頭上,但自己連一個指頭也不肯動。
4 Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, a'u gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud.
5他們所作的一切,都是要作給人看:他們把經文的匣子做大了,衣服的繸子做長了;
5 Cyflawnant eu holl weithredoedd er mwyn cael eu gweld gan eraill. Y maent yn gwneud eu phylacterau'n llydan ac ymylon eu mentyll yn llaes;
6他們喜歡筵席上的首位、會堂裡的高位;
6 y maent yn hoffi cael y seddau anrhydedd mewn gwleddoedd a'r prif gadeiriau yn y synagogau,
7又喜歡人在市中心向他們問安,稱呼他們‘拉比’。
7 a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd a'u galw gan bobl yn 'Rabbi'.
8然而你們不要被人稱為‘拉比’,因為只有一位是你們的老師,你們都是弟兄。
8 Ond peidiwch chwi � chymryd eich galw yn 'Rabbi', oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd.
9不要稱呼地上的人為父,因為只有一位是你們的父,就是天父。
9 A pheidiwch � galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol.
10你們也不要被人稱為師傅,因為只有一位是你們的師傅,就是基督。
10 A pheidiwch � chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia.
11你們中間最大的,必作你們的僕人。
11 Rhaid i'r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi.
12凡高抬自己的,必被降卑;凡自己謙卑的,必被升高。
12 Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
13“虛偽的經學家和法利賽人哪,你們有禍了!你們在人面前關了天國的門,自己不進去,連正要進去的人,你們也不准他們進去。
13 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cau drws teyrnas nefoedd yn wyneb pobl; nid ydych yn mynd i mewn eich hunain, nac yn gadael i'r rhai sydd am fynd i mewn wneud hynny.
14(有些抄本有第14節:“虛偽的經學家和法利賽人哪,你們有禍了!你們吞沒了寡婦的房產,假裝作冗長的禱告,所以你們必受更重的刑罰。”)
14 [{cf15i Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gwedd�o'n faith; am hynny fe dderbyniwch drymach dedfryd.}]
15“虛偽的經學家和法利賽人哪,你們有禍了!你們走遍海洋陸地,要使一個人入教;當他入了教,你們卻使他淪為地獄之子,比你們更甚。
15 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cwmpasu m�r a thir i wneud un proselyt, ac wedi ei gael fe'i gwnewch yn ddwywaith cymaint o blentyn uffern ag yr ydych chwi.
16“你們這些瞎眼的嚮導有禍了!你們說:‘凡指著聖所而起的誓,是沒有用的;但指著聖所的金子而起的誓,就必須遵守。’
16 "Gwae chwi, arweinwyr dall sy'n dweud, 'Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r deml, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r aur sydd yn y deml, y mae rhwymedigaeth arno.'
17你們這些瞎眼的愚昧人哪,到底是金子大,還是使金子成聖的聖所大呢?
17 Ffyliaid a deillion, prun sydd fwyaf, yr aur ynteu'r deml, sy'n gwneud yr aur yn gysegredig?
18你們又說:‘凡指著祭壇所起的誓,是沒有用的;但指著壇上的祭物所起的誓,就必須遵守。’
18 A thrachefn fe ddywedwch, 'Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r allor, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r offrwm sydd ar yr allor, y mae rhwymedigaeth arno.'
19瞎眼的人哪!到底是祭物大,還是使祭物成聖的祭壇大呢?
19 Ddeillion, prun sydd fwyaf, yr offrwm ynteu'r allor, sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?
20所以,凡指著祭壇起誓的,他就是指著祭壇和壇上的一切起誓;
20 Felly y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r allor yn tyngu iddi hi ac i bopeth sydd arni,
21指著聖所起誓的,就是指著聖所和住在那裡的 神起誓;
21 ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r deml yn tyngu iddi hi ac i'r hwn sy'n preswylio ynddi.
22指著天起誓的,就是指著 神的寶座和坐在寶座上的起誓。
22 Ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r nef yn tyngu i orsedd Duw ac i'r hwn sy'n eistedd arni.
23“虛偽的經學家和法利賽人哪,你們有禍了!你們把薄荷、茴香、芹菜,獻上十分之一,卻忽略律法上更重要的,就如正義、憐憫和信實;這些更重要的是你們應當作的,但其他的也不可忽略。
23 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio'r lleill.
24你們這些瞎眼的嚮導啊,你們把蚊蟲濾出來,卻把駱駝吞下去。
24 Arweinwyr dall! Yr ydych yn hidlo'r gwybedyn ac yn llyncu'r camel.
25“虛偽的經學家和法利賽人哪,你們有禍了!你們洗淨杯盤的外面,裡面卻裝滿了搶奪和放蕩。
25 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond y tu mewn y maent yn llawn trachwant a hunan-foddhad.
26瞎眼的法利賽人哪,先把杯和盤的裡面洗淨,好使外面也可以乾淨。
26 Y Pharisead dall, glanha'n gyntaf y tu mewn i'r cwpan, fel y bydd y tu allan iddo hefyd yn l�n.
27“虛偽的經學家和法利賽人哪,你們有禍了!你們好像粉飾了的墳墓,外面好看,裡面卻裝滿了死人的骨頭和各樣的污穢;
27 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn debyg i feddau wedi eu gwyngalchu, sydd o'r tu allan yn ymddangos yn hardd, ond y tu mewn y maent yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.
28照樣,你們外面看來像義人,裡面卻充塞著虛偽和不法。
28 Felly hefyd yn allanol yr ydych chwithau yn ymddangos i bobl yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
29“虛偽的經學家和法利賽人哪,你們有禍了!你們建造先知的墓,修飾義人的碑,
29 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi ac yn addurno beddfeini'r rhai cyfiawn,
30並且說:‘我們若活在我們祖先的時代,決不會與他們一同流先知的血。’
30 ac yn dweud, 'Pe baem ni'n byw yn nyddiau ein hynafiaid, ni fyddem wedi ymuno gyda hwy i dywallt gwaed y proffwydi.'
31這樣,你們就指證自己是殺害先知的人的子孫了。
31 Felly yr ydych yn tystio yn eich erbyn eich hunain eich bod yn blant i'r rhai a lofruddiodd y proffwydi.
32那麼,去完成你們祖先的罪孽吧!
32 Ewch chwithau ymlaen i orffen yr hyn a ddechreuodd eich hynafiaid.
33你們這些蛇,這些毒蛇所生的啊,你們怎能逃脫地獄的刑罰呢?
33 Chwi seirff ac epil gwiberod, sut y dihangwch rhag barn uffern?
34因此,我差派先知、智慧人和經學家到你們那裡;有些你們要殺害又釘在十字架上,有些你們要在會堂裡鞭打,從一個城趕逐到另一個城。
34 Am hynny dyma fi'n anfon atoch broffwydi a rhai doeth a rhai dysgedig; byddwch yn lladd ac yn croeshoelio rhai ohonynt, ac yn fflangellu eraill yn eich synagogau, a'u herlid o un dref i'r llall.
35所以,從義人亞伯的血起,到巴拉加的兒子撒迦利亞的血為止,他就是你們在聖所和祭壇中間所殺的,所有義人在地上所流的血,都要歸在你們身上。
35 Felly, ar eich pen chwi y bydd yr holl waed diniwed a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a lofruddiasoch rhwng y cysegr a'r allor.
36我實在告訴你們,這一切都必臨到這個世代。
36 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ar ben y genhedlaeth hon y bydd yr holl bethau hyn.
37為耶路撒冷歎息(參路13:34~35)“耶路撒冷,耶路撒冷啊,你殺害先知,又用石頭把奉派到你們那裡的人打死。我多次想招聚你的兒女,好像母雞招聚小雞到翅膀底下,只是你們不願意。
37 "Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae i�r yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
38你看,你們的家必成為荒場,留給你們。
38 Wele, y mae eich tu375? yn cael ei adael yn anghyfannedd.
39我告訴你們,從今以後,你們一定見不到我,直等到你們說:‘奉主名來的,是應當稱頌的。’”
39 Oherwydd 'rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld o hyn allan hyd y dydd pan ddywedwch, 'Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.'"