1應當服從政府政府的權柄,人人都應當服從。因為沒有一樣權柄不是從 神來的;掌權的都是 神設立的。
1 Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw.
2所以抗拒掌權的,就是反對 神所設立的;反對的人必自招刑罰。
2 Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain.
3執政的不是要使行善的懼怕,而是要使作惡的懼怕。你想不怕掌權的嗎?只要行善,就會得到稱讚;
3 Y mae'r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i'r sawl sy'n gwneud daioni ond i'r sawl sy'n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni'r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo.
4因為他是 神的僕役,是對你有益的。但如果你作惡,就應當懼怕;因為他佩劍,不是沒有作用的。他是 神的僕役,是向作惡的人施行刑罰的。
4 Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat ti er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae'n gwisgo'r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar ddrwgweithredwyr.
5所以你們必須服從,不但是為了刑罰,也是因為良心的緣故。
5 Felly, y mae rheidrwydd arnom ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, ond hefyd o achos cydwybod.
6因此,你們也當納稅,因為他們是 神的差役,專責處理這事的。
6 Dyma pam hefyd yr ydych yn talu trethi, oherwydd gwasanaethu Duw y mae'r awdurdodau wrth fod yn ddyfal yn y gwaith hwn.
7你們要向各人清還所欠的;應當納稅的,就要給他納稅;應當進貢的,就給他進貢;應當敬畏的,就敬畏他;應當尊敬的,就尊敬他。
7 Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd.
8愛是成全律法的不要欠人的債;但在彼此相愛的事上,要覺得是欠了人的債。愛別人的,就成全了律法。
8 Peidiwch � bod mewn dyled i neb, ar wah�n i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith.
9那“不可姦淫,不可殺人,不可偷盜,不可貪心”等等的誡命,都包括在“愛人如己”這一句話裡面了。
9 Oherwydd y mae'r gorchmynion, "Na odineba, na ladd, na ladrata, na chwennych", a phob gorchymyn arall, wedi eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: "C�r dy gymydog fel ti dy hun."
10愛是不加害於人的,所以愛是成全律法的。
10 Ni all cariad wneud cam � chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.
11總要披戴基督還有,你們知道這是甚麼時期了,現在正是你們應該睡醒的時候,因為我們得救,現在比初信的時候更加接近了。
11 Ie, gwnewch hyn oll fel rhai sy'n ymwybodol o'r amser, mai dyma'r awr ichwi i ddeffro o gwsg. Erbyn hyn, y mae ein hiachawdwriaeth yn nes atom nag oedd pan ddaethom i gredu.
12黑夜已深,白晝近了,所以我們要除掉暗昧的行為,帶上光明的武器。
12 Y mae'r nos ar ddod i ben, a'r dydd ar wawrio. Gadewch inni, felly, roi heibio weithredoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau'r goleuni.
13行事為人要光明磊落,好像行在白晝。不可荒宴醉酒,不可放蕩縱慾,不可紛爭嫉妒。
13 Gadewch inni fyw yn weddus, fel yng ngolau dydd, heb roi dim lle i loddest a meddwdod, i anniweirdeb ac anlladrwydd, i gynnen ac eiddigedd.
14總要披戴主耶穌基督,不要為肉體安排,去放縱私慾。
14 Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch � rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd.