1不可論斷弟兄或輕看弟兄你們要接納信心軟弱的人,不要論斷引起爭論的事。
1 Derbyniwch i'ch plith unrhyw un sy'n wan ei ffydd, ond nid er mwyn codi dadleuon.
2有人相信所有的食物都可以吃,信心軟弱的人卻只吃蔬菜。
2 Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig.
3吃的人不要輕看不吃的人,不吃的人也不要批評吃的人,因為 神已經接納他了。
3 Rhaid i'r sawl sy'n bwyta pob peth beidio � bychanu'r sawl sy'n ymwrthod, a rhaid i'r sawl sy'n ymwrthod beidio � barnu'r sawl sy'n bwyta, oherwydd y mae Duw wedi ei dderbyn.
4你是誰,竟然批評別人的家僕呢?他或站穩或跌倒,只和自己的主人有關;但他必定站穩,因為主能夠使他站穩。
4 Pwy wyt ti, i fod yn barnu gwas rhywun arall? Gan y Meistr y mae'r hawl i benderfynu a yw rhywun yn sefyll neu'n syrthio. A sefyll a wna, oherwydd y mae'r Meistr yn abl i beri i rywun sefyll.
5有人認為這日比那日好,也有人認為日日都是一樣;只要各人自己心意堅定就可以了。
5 Y mae ambell un yn ystyried un dydd yn well na'r llall, ac un arall yn eu hystyried i gyd yn gyfartal. Rhaid i'r naill a'r llall fod yn gwbl argyhoeddedig yn eu meddyliau eu hunain.
6守日的人是為主守的,吃的人是為主吃的,因為他感謝 神;不吃的人是為主不吃,他也感謝 神。
6 Y mae'r sawl sy'n cadw'r dydd yn ei gadw er gogoniant yr Arglwydd; a'r sawl sy'n bwyta pob peth yn gwneud hynny er gogoniant yr Arglwydd, oherwydd y mae'n rhoi diolch i Dduw. Ac y mae'r un sy'n ymwrthod yn ymwrthod er gogoniant yr Arglwydd; y mae'n rhoi diolch i Dduw.
7我們沒有一個人為自己活,也沒有一個人為自己死。我們若活著,是為主而活;
7 Oherwydd nid oes neb ohonom yn byw nac yn marw i ni'n hunain.
8我們若死了,是為主而死。所以,我們無論活著或是死了,總是屬於主的人。
8 Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym.
9為了這緣故,基督死了,又活過來,就是要作死人和活人的主。
9 Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a'r byw.
10這樣,你為甚麼批評你的弟兄呢?為甚麼又輕看你的弟兄呢?我們都要站在 神的審判臺前;
10 Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw.
11因為經上記著:“主說,我指著我的永生起誓:萬膝必向我跪拜,萬口必稱頌 神。”
11 Fel y mae'n ysgrifenedig: "Cyn wired �'m bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu, a phob tafod yn moliannu Duw."
12這樣看來,我們各人都要把自己的事向 神交代。
12 Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw.
13不可使弟兄跌倒所以,我們不要再彼此批評了;倒要立定主意,決不作絆倒弟兄或使他跌倒的事。
13 Felly, peidiwn mwyach � barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu.
14我知道,並且在主耶穌裡深信,沒有一樣東西的本身是不潔的,但如果有人認為是不潔的,對他來說那東西就成為不潔了。
14 Mi wn i sicrwydd yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun. Ond i rywun sy'n ystyried rhywbeth yn aflan y mae'r peth hwnnw yn aflan.
15如果你為了食物使你的弟兄憂愁,你就不再是憑著愛心行事了。你不可因著你的食物,使基督已經替他死了的人滅亡。
15 Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn �l gofynion cariad. Paid � dwyn i ddistryw, �'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto.
16所以,不可使你們看為好的被人毀謗;
16 Peidiwch � gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg.
17因為 神的國不在於吃喝,而在於公義、和睦,以及聖靈裡的喜樂。
17 Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Gl�n.
18這樣服事基督的人,必蒙 神喜悅,又得眾人嘉許。
18 Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb.
19所以,我們總要追求和睦的事,與彼此造就的事。
19 Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn �'n gilydd.
20不可因食物的緣故拆毀 神的工作。一切都是潔淨的,但人若因食物絆倒弟兄,對他來說,這就是惡事了。
20 Peidiwch � thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn l�n, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall.
21無論是吃肉,是喝酒,或是甚麼使你的弟兄跌倒的事,一律不要作才好。
21 Y peth iawn yw peidio � bwyta cig nac yfed gwin, na gwneud dim a all beri i rywun arall gwympo.
22你所信的,你自己要在 神面前持守。人在經自己考驗後認可的事上能夠不自責,他就有福了。
22 Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo.
23但如果有人存著疑惑的心去吃,他就被定罪了,因為他不是出於信心。凡不是出於信心的,都是罪。
23 Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.