1Now about that time Herod the king stretched forth his hands to vex certain of the church.
1 Tua'r amser hwnnw, fe gymerodd y Brenin Herod afael ar rai o'r eglwys i'w drygu.
2And he killed James the brother of John with the sword.
2 Fe laddodd Iago, brawd Ioan, �'r cleddyf.
3And because he saw it pleased the Jews, he proceeded further to take Peter also. (Then were the days of unleavened bread.)
3 Pan welodd fod hyn yn gymeradwy gan yr Iddewon, aeth ymlaen i ddal Pedr hefyd. Yn ystod dyddiau gu373?yl y Bara Croyw y bu hyn.
4And when he had apprehended him, he put him in prison, and delivered him to four quaternions of soldiers to keep him; intending after Easter to bring him forth to the people.
4 Wedi dal Pedr, fe'i rhoddodd yng ngharchar, a'i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i'w warchod, gan fwriadu dod ag ef allan gerbron y cyhoedd ar �l y Pasg.
5Peter therefore was kept in prison: but prayer was made without ceasing of the church unto God for him.
5 Felly yr oedd Pedr dan warchodaeth yn y carchar. Ond yr oedd yr eglwys yn gwedd�o'n daer ar Dduw ar ei ran.
6And when Herod would have brought him forth, the same night Peter was sleeping between two soldiers, bound with two chains: and the keepers before the door kept the prison.
6 Pan oedd Herod ar fin ei ddwyn gerbron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo � dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws yn gwarchod y carchar.
7And, behold, the angel of the Lord came upon him, and a light shined in the prison: and he smote Peter on the side, and raised him up, saying, Arise up quickly. And his chains fell off from his hands.
7 A dyma angel yr Arglwydd yn sefyll yno, a goleuni yn disgleirio yn y gell. Trawodd yr angel Pedr ar ei ystlys, a'i ddeffro a dweud, "Cod ar unwaith." A syrthiodd ei gadwynau oddi ar ei ddwylo.
8And the angel said unto him, Gird thyself, and bind on thy sandals. And so he did. And he saith unto him, Cast thy garment about thee, and follow me.
8 Meddai'r angel wrtho, "Rho dy wregys a gwisg dy sandalau." Ac felly y gwnaeth. Meddai wrtho wedyn, "Rho dy fantell amdanat, a chanlyn fi."
9And he went out, and followed him; and wist not that it was true which was done by the angel; but thought he saw a vision.
9 Ac fe'i canlynodd oddi yno. Ni wyddai fod yr hyn oedd yn cael ei gyflawni drwy'r angel yn digwydd mewn gwirionedd, ond yr oedd yn tybio mai gweld gweledigaeth yr oedd.
10When they were past the first and the second ward, they came unto the iron gate that leadeth unto the city; which opened to them of his own accord: and they went out, and passed on through one street; and forthwith the angel departed from him.
10 Aethant heibio i'r wyliadwriaeth gyntaf a'r ail, a daethant at y porth haearn oedd yn arwain i'r ddinas; agorodd hwn iddynt ohono'i hun, ac aethant allan a mynd rhagddynt hyd un heol. Yna'n ebrwydd ymadawodd yr angel ag ef.
11And when Peter was come to himself, he said, Now I know of a surety, that the LORD hath sent his angel, and hath delivered me out of the hand of Herod, and from all the expectation of the people of the Jews.
11 Wedi i Pedr ddod ato'i hun, fe ddywedodd, "Yn awr mi wn yn wir i'r Arglwydd anfon ei angel a'm gwared i o law Herod a rhag popeth yr oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl."
12And when he had considered the thing, he came to the house of Mary the mother of John, whose surname was Mark; where many were gathered together praying.
12 Wedi iddo sylweddoli hyn, aeth i du375? Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle'r oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gwedd�o.
13And as Peter knocked at the door of the gate, a damsel came to hearken, named Rhoda.
13 Curodd wrth ddrws y cyntedd, a daeth morwyn, o'r enw Rhoda, i'w ateb.
14And when she knew Peter's voice, she opened not the gate for gladness, but ran in, and told how Peter stood before the gate.
14 Pan adnabu hi lais Pedr nid agorodd y drws gan lawenydd, ond rhedodd i mewn a mynegodd fod Pedr yn sefyll wrth ddrws y cyntedd.
15And they said unto her, Thou art mad. But she constantly affirmed that it was even so. Then said they, It is his angel.
15 Dywedasant wrthi, " 'Rwyt ti'n wallgof." Ond taerodd hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, "Ei angel ydyw."
16But Peter continued knocking: and when they had opened the door, and saw him, they were astonished.
16 Yr oedd Pedr yn dal i guro, ac wedi iddynt agor a'i weld, fe'u syfrdanwyd.
17But he, beckoning unto them with the hand to hold their peace, declared unto them how the Lord had brought him out of the prison. And he said, Go shew these things unto James, and to the brethren. And he departed, and went into another place.
17 Amneidiodd yntau arnynt �'i law i fod yn ddistaw, ac adroddodd wrthynt sut yr oedd yr Arglwydd wedi dod ag ef allan o'r carchar. Dywedodd hefyd, "Mynegwch hyn i Iago a'r brodyr." Yna ymadawodd, ac aeth ymaith i le arall.
18Now as soon as it was day, there was no small stir among the soldiers, what was become of Peter.
18 Wedi iddi ddyddio, yr oedd cynnwrf nid bychan ymhlith y milwyr: beth allai fod wedi digwydd i Pedr?
19And when Herod had sought for him, and found him not, he examined the keepers, and commanded that they should be put to death. And he went down from Judaea to Caesarea, and there abode.
19 Wedi i Herod chwilio amdano a methu ei gael, holodd y gwylwyr a gorchmynnodd eu dienyddio. Yna aeth i lawr o Jwdea i Gesarea, ac aros yno.
20And Herod was highly displeased with them of Tyre and Sidon: but they came with one accord to him, and, having made Blastus the king's chamberlain their friend, desired peace; because their country was nourished by the king's country.
20 Yr oedd Herod yn gynddeiriog yn erbyn pobl Tyrus a Sidon. Ond daethant hwy yn unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, siambrlen y brenin, o'u plaid, deisyfasant heddwch, am fod eu gwlad hwy yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
21And upon a set day Herod, arrayed in royal apparel, sat upon his throne, and made an oration unto them.
21 Ar ddiwrnod penodedig, a'i wisg frenhinol amdano, eisteddodd Herod ar ei orsedd a dechrau eu hannerch;
22And the people gave a shout, saying, It is the voice of a god, and not of a man.
22 a bloeddiodd y bobl, "Llais Duw ydyw, nid llais dyn!"
23And immediately the angel of the Lord smote him, because he gave not God the glory: and he was eaten of worms, and gave up the ghost.
23 Ar unwaith trawodd angel yr Arglwydd ef, am nad oedd wedi rhoi'r gogoniant i Dduw; ac fe'i hyswyd gan bryfed, a threngodd.
24But the word of God grew and multiplied.
24 Yr oedd Gair yr Arglwydd yn cynyddu ac yn mynd ar led.
25And Barnabas and Saul returned from Jerusalem, when they had fulfilled their ministry, and took with them John, whose surname was Mark.
25 Dychwelodd Barnabas a Saul o Jerwsalem wedi iddynt gyflawni eu gwaith, a chymryd gyda hwy Ioan, a gyfenwid Marc.