1And when the sabbath was past, Mary Magdalene, and Mary the mother of James, and Salome, had bought sweet spices, that they might come and anoint him.
1 Wedi i'r Saboth fynd heibio, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau, er mwyn mynd i'w eneinio ef.
2And very early in the morning the first day of the week, they came unto the sepulchre at the rising of the sun.
2 Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o'r wythnos, a'r haul newydd godi, dyma hwy'n dod at y bedd.
3And they said among themselves, Who shall roll us away the stone from the door of the sepulchre?
3 Ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy a dreigla'r maen i ffwrdd oddi wrth ddrws y bedd i ni?"
4And when they looked, they saw that the stone was rolled away: for it was very great.
4 Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn.
5And entering into the sepulchre, they saw a young man sitting on the right side, clothed in a long white garment; and they were affrighted.
5 Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt.
6And he saith unto them, Be not affrighted: Ye seek Jesus of Nazareth, which was crucified: he is risen; he is not here: behold the place where they laid him.
6 Meddai yntau wrthynt, "Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gu373?r o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef.
7But go your way, tell his disciples and Peter that he goeth before you into Galilee: there shall ye see him, as he said unto you.
7 Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. 'Y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.'"
8And they went out quickly, and fled from the sepulchre; for they trembled and were amazed: neither said they any thing to any man; for they were afraid.
8 Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.
9Now when Jesus was risen early the first day of the week, he appeared first to Mary Magdalene, out of whom he had cast seven devils.
9 Ar �l atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni.
10And she went and told them that had been with him, as they mourned and wept.
10 Aeth hi a dweud y newydd wrth ei ganlynwyr yn eu galar a'u dagrau.
11And they, when they had heard that he was alive, and had been seen of her, believed not.
11 A'r rheini, pan glywsant ei fod yn fyw ac wedi ei weld ganddi hi, ni chredasant.
12After that he appeared in another form unto two of them, as they walked, and went into the country.
12 Ar �l hynny, ymddangosodd mewn ffurf arall i ddau ohonynt fel yr oeddent yn cerdded ar eu ffordd i'r wlad;
13And they went and told it unto the residue: neither believed they them.
13 ac aethant hwy ymaith a dweud y newydd wrth y lleill. Ond ni chredodd neb y rheini chwaith.
14Afterward he appeared unto the eleven as they sat at meat, and upbraided them with their unbelief and hardness of heart, because they believed not them which had seen him after he was risen.
14 Yn ddiweddarach, ymddangosodd i'r un ar ddeg pan oeddent wrth bryd bwyd, ac edliw iddynt eu hanghrediniaeth a'u hystyfnigrwydd, am iddynt beidio � chredu y rhai oedd wedi ei weld ef ar �l ei gyfodi.
15And he said unto them, Go ye into all the world, and preach the gospel to every creature.
15 A dywedodd wrthynt, "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd.
16He that believeth and is baptized shall be saved; but he that believeth not shall be damned.
16 Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemnir.
17And these signs shall follow them that believe; In my name shall they cast out devils; they shall speak with new tongues;
17 A bydd yr arwyddion hyn yn dilyn i'r sawl a gredodd: bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant � thafodau newydd,
18They shall take up serpents; and if they drink any deadly thing, it shall not hurt them; they shall lay hands on the sick, and they shall recover.
18 gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant."
19So then after the Lord had spoken unto them, he was received up into heaven, and sat on the right hand of God.
19 Felly, wedi iddo lefaru wrthynt, cymerwyd yr Arglwydd Iesu i fyny i'r nef ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
20And they went forth, and preached every where, the Lord working with them, and confirming the word with signs following. Amen.
20 Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio � hwy ac yn cadarnhau'r gair trwy'r arwyddion oedd yn dilyn.