1It is actually reported that there is fornication among you, and such fornication as is not even among the Gentiles, that one [of you] hath his father's wife.
1 Adroddir fel ffaith fod yna anfoesoldeb rhywiol yn eich plith, a hwnnw'r fath anfoesoldeb na cheir mohono hyd yn oed ymhlith y paganiaid, bod rhyw ddyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad.
2And ye are puffed up, and did not rather mourn, that he that had done this deed might be taken away from among you.
2 A dyma chwi, yn llawn ymffrost! Onid eich lle chwi oedd galaru, a bwrw allan o'ch plith yr un a wnaeth y fath beth?
3For I verily, being absent in body but present in spirit, have already as though I were present judged him that hath so wrought this thing,
3 Oherwydd dyma fi, yn absennol yn y corff, ond yn bresennol yn yr ysbryd, eisoes wedi rhoi dyfarniad, fel un sy'n bresennol, ar y dyn a wnaeth y fath weithred:
4in the name of our Lord Jesus, ye being gathered together, and my spirit, with the power of our Lord Jesus,
4 bod i chwi, ynghyd �'m hysbryd innau, wedi ymgynnull yn enw ein Harglwydd Iesu, a gallu ein Harglwydd Iesu gyda ni,
5to deliver such a one unto Satan for the destruction of the flesh, that the spirit may be saved in the day of the Lord Jesus.
5 draddodi'r fath ddyn i Satan er mwyn dinistrio'r cnawd, a thrwy hynny achub ei ysbryd yn Nydd yr Arglwydd.
6Your glorying is not good. Know ye not that a little leaven leaveneth the whole lump?
6 Nid yw eich ymffrost yn weddus. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio'r holl does?
7Purge out the old leaven, that ye may be a new lump, even as ye are unleavened. For our passover also hath been sacrificed, [even] Christ:
7 Glanhewch yr hen lefain allan, ichwi fod yn does newydd, croyw, fel yr ydych mewn gwirionedd. Oherwydd y mae Crist, ein Pasg ni, wedi ei aberthu.
8wherefore let us keep the feast, not with old leaven, neither with the leaven of malice and wickedness, but with the unleavened bread of sincerity and truth.
8 Am hynny cadwn yr u373?yl, nid �'r hen lefain, nac ychwaith � lefain malais a llygredd, ond � bara croyw purdeb a gwirionedd.
9I wrote unto you in my epistle to have no company with fornicators;
9 Ysgrifennais atoch yn fy llythyr, i ddweud wrthych am beidio � chymysgu � phobl sy'n cyflawni anfoesoldeb rhywiol.
10not at all [meaning] with the fornicators of this world, or with the covetous and extortioners, or with idolaters; for then must ye needs go out of the world:
10 Ond nid am rai anfoesol y byd hwn yr oeddwn yn meddwl o gwbl, na chwaith am y trachwantus, y cribddeilwyr, neu'r eilunaddolwyr; onid e, byddai'n rhaid ichwi fynd allan o'r byd.
11but as it is, I wrote unto you not to keep company, if any man that is named a brother be a fornicator, or covetous, or an idolater, or a reviler, or a drunkard, or an extortioner; with such a one no, not to eat.
11 Ond yn awr yr wyf yn ysgrifennu i ddweud wrthych am beidio � chymysgu � neb a elwir yn gredadun os yw'n anfoesol yn rhywiol neu'n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu'n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed � bwyta gydag un felly.
12For what have I to do with judging them that are without? Do not ye judge them that are within?
12 Oherwydd beth sydd a wnelwyf fi � barnu'r rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?
13But them that are without God judgeth. Put away the wicked man from among yourselves.
13 Duw fydd yn barnu'r rhai sydd oddi allan. Taflwch y dihiryn allan o'ch mysg.