1For freedom did Christ set us free: stand fast therefore, and be not entangled again in a yoke of bondage.
1 I ryddid y rhyddhaodd Crist ni. Safwch yn gadarn, felly, a pheidiwch � phlygu eto i iau caethiwed.
2Behold, I Paul say unto you, that, if ye receive circumcision, Christ will profit you nothing.
2 Dyma fy ngeiriau, i, Paul, wrthych chwi: os derbyniwch enwaediad, ni bydd Crist o ddim budd i chwi.
3Yea, I testify again to every man that receiveth circumcision, that he is a debtor to do the whole law.
3 Yr wyf yn tystio unwaith eto wrth bob dyn a enwaedir, ei fod dan rwymedigaeth i gadw'r Gyfraith i gyd.
4Ye are severed from Christ, ye would be justified by the law; ye are fallen away from grace.
4 Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas � Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras.
5For we through the Spirit by faith wait for the hope of righteousness.
5 Ond yr ydym ni, yn yr Ysbryd, trwy ffydd, yn disgwyl am y cyfiawnder yr ydym yn gobeithio amdano.
6For in Christ Jesus neither circumcision availeth anything, nor uncircumcision; but faith working through love.
6 Oherwydd yng Nghrist Iesu nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithredu trwy gariad.
7Ye were running well; who hindered you that ye should not obey the truth?
7 Yr oeddech yn rhedeg yn dda. Pwy a'ch rhwystrodd chwi rhag canlyn y gwirionedd?
8This persuasion [came] not of him that calleth you.
8 Nid oddi wrth yr hwn sy'n eich galw y daeth y persw�d yma.
9A little leaven leaveneth the whole lump.
9 Y mae ychydig surdoes yn suro'r holl does.
10I have confidence to you-ward in the Lord, that ye will be none otherwise minded: but he that troubleth you shall bear his judgment, whosoever he be.
10 Yr wyf fi'n gwbl hyderus amdanoch yn yr Arglwydd, na fydd i chwi wyro yn eich barn; ond bydd rhaid i hwnnw sy'n aflonyddu arnoch ddwyn ei gosb, pwy bynnag ydyw.
11But I, brethren, if I still preach circumcision, why am I still persecuted? then hath the stumbling-block of the cross been done away.
11 Amdanaf fi, gyfeillion, os wyf yn parhau i bregethu'r enwaediad, pam y parheir i'm herlid? Petai hynny'n wir, byddai tramgwydd y groes wedi ei symud.
12I would that they that unsettle you would even go beyond circumcision.
12 O na bai eich aflonyddwyr yn eu sbaddu eu hunain hefyd!
13For ye, brethren, were called for freedom; only [use] not your freedom for an occasion to the flesh, but through love be servants one to another.
13 Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.
14For the whole law is fulfilled in one word, [even] in this: Thou shalt love thy neighbor as thyself.
14 Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, "C�r dy gymydog fel ti dy hun."
15But if ye bite and devour one another, take heed that ye be not consumed one of another.
15 Ond os cnoi a darnio'ch gilydd yr ydych, gofalwch na chewch eich difa gan eich gilydd.
16But I say, walk by the Spirit, and ye shall not fulfil the lust of the flesh.
16 Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd.
17For the flesh lusteth against the Spirit, and the Spirit against the flesh; for these are contrary the one to the other; that ye may not do the things that ye would.
17 Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch.
18But if ye are led by the Spirit, ye are not under the law.
18 Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith.
19Now the works of the flesh are manifest, which are [these]: fornication, uncleanness, lasciviousness,
19 Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,
20idolatry, sorcery, enmities, strife, jealousies, wraths, factions, divisions, parties,
20 eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,
21envyings, drunkenness, revellings, and such like; of which I forewarn you, even as I did forewarn you, that they who practise such things shall not inherit the kingdom of God.
21 cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
22But the fruit of the Spirit is love, joy, peace, longsuffering, kindness, goodness, faithfulness,
22 Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
23meekness, self-control; against such there is no law.
23 Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.
24And they that are of Christ Jesus have crucified the flesh with the passions and the lusts thereof.
24 Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd �'i nwydau a'i chwantau.
25If we live by the Spirit, by the Spirit let us also walk.
25 Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd.
26Let us not become vainglorious, provoking one another, envying one another.
26 Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.