American Standard Version

Welsh

Hebrews

7

1For this Melchizedek, king of Salem, priest of God Most High, who met Abraham returning from the slaughter of the kings and blessed him,
1 Cyfarfu'r Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad i'r Duw Goruchaf, ag Abraham wrth iddo ddychwelyd o daro'r brenhinoedd, a bendithiodd ef;
2to whom also Abraham divided a tenth part of all (being first, by interpretation, King of righteousness, and then also King of Salem, which is King of peace;
2 a rhannodd Abraham iddo yntau ddegwm o'r cwbl. Yn gyntaf, ystyr ei enw ef yw "brenin cyfiawnder"; ac yna, y mae'n frenin Salem, hynny yw, "brenin tangnefedd".
3without father, without mother, without genealogy, having neither beginning of days nor end of life, but made like unto the Son of God), abideth a priest continually.
3 Ac yntau heb dad, heb fam, a heb achau, nid oes iddo na dechrau dyddiau na diwedd einioes; ond, wedi ei wneud yn gyffelyb i Fab Duw, y mae'n aros yn offeiriad am byth.
4Now consider how great this man was, unto whom Abraham, the patriarch, gave a tenth out of the chief spoils.
4 Ystyriwch pa mor fawr oedd y gu373?r hwn y rhoddwyd iddo ddegwm o'r anrhaith gan Abraham y patriarch.
5And they indeed of the sons of Levi that receive the priest's office have commandment to take tithes of the people according to the law, that is, of their brethren, though these have come out of the loins of Abraham:
5 Yn awr, y mae'r rheini o blith disgynyddion Lefi sy'n cymryd swydd offeiriad dan orchymyn yn �l y Gyfraith i gymryd degwm gan y bobl, hynny yw, eu cyd-genedl, er mai disgynyddion Abraham ydynt.
6but he whose genealogy is not counted from them hath taken tithes of Abraham, and hath blessed him that hath the promises.
6 Ond y mae hwn, er nad yw o'u llinach hwy, wedi cymryd degwm gan Abraham ac wedi bendithio'r hwn y mae'r addewidion ganddo.
7But without any dispute the less is blessed of the better.
7 A heb ddadl o gwbl, y lleiaf sy'n cael ei fendithio gan y mwyaf.
8And here men that die receive tithes; but there one, of whom it is witnessed that he liveth.
8 Yn y naill achos, rhai meidrol sydd yn derbyn degwm, ond yn y llall, un y tystiolaethir amdano ei fod yn aros yn fyw.
9And, so to say, through Abraham even Levi, who receiveth tithes, hath paid tithes;
9 Gellir dweud hyd yn oed fod Lefi, derbyniwr y degwm, yntau wedi talu degwm drwy Abraham,
10for he was yet in the loins of his father, when Melchizedek met him.
10 oblegid yr oedd ef eisoes yn llwynau ei gyndad pan gyfarfu Melchisedec � hwnnw.
11Now if there was perfection through the Levitical priesthood (for under it hath the people received the law), what further need [was there] that another priest should arise after the order of Melchizedek, and not be reckoned after the order of Aaron?
11 Os oedd perffeithrwydd i'w gael, felly, trwy'r offeiriadaeth Lefiticaidd � oblegid ar sail honno y rhoddwyd y Gyfraith i'r bobl � pa angen pellach oedd i s�n am offeiriad arall yn codi, yn �l urdd Melchisedec ac nid yn �l urdd Aaron?
12For the priesthood being changed, there is made of necessity a change also of the law.
12 Oblegid os yw'r offeiriadaeth yn cael ei newid, rhaid bod y Gyfraith hefyd yn cael ei newid.
13For he of whom these things are said belongeth to another tribe, from which no man hath given attendance at the altar.
13 Oherwydd y mae'r un y dywedir y pethau hyn amdano yn perthyn i lwyth arall, nad oes yr un aelod ohono wedi gweini wrth yr allor;
14For it is evident that our Lord hath sprung out of Judah; as to which tribe Moses spake nothing concerning priests.
14 ac y mae'n gwbl hysbys fod ein Harglwydd ni yn hanu o lwyth Jwda, llwyth na ddywedodd Moses ddim am offeiriad mewn perthynas ag ef.
15And [what we say] is yet more abundantly evident, if after the likeness of Melchizedek there ariseth another priest,
15 Y mae'r ddadl yn eglurach fyth os ar ddull Melchisedec y bydd yr offeiriad arall yn codi,
16who hath been made, not after the law of a carnal commandment, but after the power of an endless life:
16 a'i offeiriadaeth yn dibynnu, nid ar gyfraith sydd �'i gorchymyn yn ymwneud �'r cnawd ond ar nerth bywyd annistryw.
17for it is witnessed [of him,] Thou art a priest for ever After the order of Melchizedek.
17 Oherwydd tystir amdano: "Yr wyt ti'n offeiriad am byth yn �l urdd Melchisedec."
18For there is a disannulling of a foregoing commandment because of its weakness and unprofitableness
18 Felly, y mae yma ddiddymu ar y gorchymyn blaenorol, am ei fod yn wan ac anfuddiol.
19(for the law made nothing perfect), and a bringing in thereupon of a better hope, through which we draw nigh unto God.
19 Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod � dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nes�u at Dduw.
20And inasmuch as [it is] not without the taking of an oath
20 Yn awr, ni ddigwyddodd hyn heb i Dduw dyngu llw.
21(for they indeed have been made priests without an oath; but he with an oath by him that saith of him, The Lord sware and will not repent himself, Thou art a priest for ever);
21 Daeth y lleill, yn wir, yn offeiriaid heb i lw gael ei dyngu; ond daeth hwn trwy lw yr Un a ddywedodd wrtho: "Tyngodd yr Arglwydd, ac nid �'n �l ar ei air: 'Yr wyt ti'n offeiriad am byth.'"
22by so much also hath Jesus become the surety of a better covenant.
22 Yn gymaint � hynny, felly, y mae Iesu wedi dod yn feichiau cyfamod rhagorach.
23And they indeed have been made priests many in number, because that by death they are hindered from continuing:
23 Y mae'r lleill a ddaeth yn offeiriaid yn lluosog hefyd, am fod angau yn eu rhwystro i barhau yn eu swydd;
24but he, because he abideth for ever, hath his priesthood unchangeable.
24 ond y mae gan hwn, am ei fod yn aros am byth, offeiriadaeth na throsglwyddir mohoni.
25Wherefore also he is able to save to the uttermost them that draw near unto God through him, seeing he ever liveth to make intercession for them.
25 Dyna pam y mae ef hefyd yn gallu achub hyd yr eithaf y rhai sy'n agos�u at Dduw trwyddo ef, gan ei fod yn fyw bob amser i eiriol drostynt.
26For such a high priest became us, holy, guileless, undefiled, separated from sinners, and made higher than the heavens;
26 Dyma'r math o archoffeiriad sy'n addas i ni, un sanctaidd, di-fai, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei ddyrchafu yn uwch na'r nefoedd;
27who needeth not daily, like those high priests, to offer up sacrifices, first for his own sins, and then for the [sins] of the people: for this he did once for all, when he offered up himself.
27 un nad oes rhaid iddo yn feunyddiol, fel yr archoffeiriaid, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros rai'r bobl. Oblegid fe wnaeth ef hyn un waith am byth pan fu iddo'i offrymu ei hun.
28For the law appointeth men high priests, having infirmity; but the word of the oath, which was after the law, [appointeth] a Son, perfected for evermore.
28 Oherwydd y mae'r Gyfraith yn penodi yn archoffeiriaid ddynion sy'n weiniaid, ond y mae geiriau'r llw, sy'n ddiweddarach na'r Gyfraith, yn penodi Mab sydd wedi ei berffeithio am byth.