Basque: New Testament

Welsh

Psalms

35

1 1 I Ddafydd.0 Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson � mi, ymladd yn erbyn y rhai sy'n ymladd � mi.
2 Cydia mewn tarian a bwcled, a chyfod i'm cynorthwyo.
3 Tyn allan y waywffon a'r bicell yn erbyn y rhai sy'n fy erlid; dywed wrthyf, "Myfi yw dy waredigaeth."
4 Doed cywilydd a gwarth ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i mi droi yn eu holau mewn arswyd.
5 Byddant fel us o flaen gwynt, ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau.
6 Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig, ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
7 Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi, ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
8 Doed distryw yn ddiarwybod arnynt, dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt, a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw.
9 Ond llawenhaf fi yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddu yn ei waredigaeth.
10 Bydd fy holl esgyrn yn gweiddi, "Pwy, ARGLWYDD, sydd fel tydi, yn gwaredu'r tlawd rhag un cryfach nag ef, y tlawd a'r anghenus rhag un sy'n ei ysbeilio?"
11 Fe gyfyd tystion maleisus i'm holi am bethau nas gwn.
12 Talant imi ddrwg am dda, a gwneud ymgais am fy mywyd.
13 A minnau, pan oeddent hwy yn glaf, oeddwn yn gwisgo sachliain, yn ymddarostwng mewn ympryd, yn plygu pen mewn gweddi,
14 fel pe dros gyfaill neu frawd imi; yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam, wedi fy narostwng ac mewn galar.
15 Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawen ac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn � poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabod yn fy enllibio heb arbed.
16 Pan gloffais i, yr oeddent yn fy ngwatwar, ac yn ysgyrnygu eu dannedd arnaf.
17 O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych? Gwared fi rhag eu dinistr, a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr.
18 Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr, a'th foliannu gerbron tyrfa gref.
19 Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos, nac i'r rhai sy'n fy nghas�u heb achos wincio �'u llygaid.
20 Oherwydd nid ydynt yn s�n am heddwch; ond yn erbyn rhai tawel y wlad y maent yn cynllwyn dichellion.
21 Y maent yn agor eu cegau yn f'erbyn ac yn dweud, "Aha, aha, yr ydym wedi gweld �'n llygaid!"
22 Gwelaist tithau, ARGLWYDD; paid � thewi; fy Arglwydd, paid � phellhau oddi wrthyf.
23 Ymysgwyd a deffro i wneud barn � mi, i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd.
24 Barna fi yn �l dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw, ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos.
25 Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain, "Aha, cawsom ein dymuniad!" Na fydded iddynt ddweud, "Yr ydym wedi ei lyncu."
26 Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n llawenhau yn fy adfyd; bydded gwarth ac amarch yn gorchuddio y rhai sy'n ymddyrchafu yn f'erbyn.
27 Bydded i'r rhai sy'n dymuno gweld fy nghyfiawnhau orfoleddu a llawenhau; bydded iddynt ddweud yn wastad, "Mawr yw yr ARGLWYDD sy'n dymuno llwyddiant ei was."
28 Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi dy gyfiawnder a'th foliant ar hyd y dydd.