Basque: New Testament

Welsh

Psalms

36

1 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD.0 Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon; nid oes ofn Duw ar ei gyfyl.
2 Llwydda i'w dwyllo ei hun na ellir canfod ei ddrygioni i'w gas�u.
3 Niwed a thwyll yw ei holl eiriau; peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.
4 Cynllunia ddrygioni yn ei wely; y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir, ac nid yw'n gwrthod y drwg.
5 Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd, a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;
6 y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel a'th farnau fel y dyfnder mawr; cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.
7 Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw! Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.
8 Fe'u digonir � llawnder dy du375?, a diodi hwy o afon dy gysuron;
9 oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd, ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.
10 Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnabod a'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon.
11 Na fydded i'r troed balch fy sathru, nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan.
12 Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo, wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi!