1 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm. C�n.0 Bydded i Dduw godi, ac i'w elynion wasgaru, ac i'r rhai sy'n ei gas�u ffoi o'i flaen.
2 Fel y chwelir mwg, chw�l hwy; fel cwyr yn toddi o flaen t�n, bydded i'r drygionus ddarfod o flaen Duw.
3 Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau; y maent yn gorfoleddu gerbron Duw ac yn ymhyfrydu mewn llawenydd.
4 Canwch i Dduw, molwch ei enw, paratowch ffordd i'r un sy'n marchogaeth trwy'r anialdir; yr ARGLWYDD yw ei enw, gorfoleddwch o'i flaen.
5 Tad yr amddifaid ac amddiffynnydd y gweddwon yw Duw yn ei drigfan sanctaidd.
6 Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref, ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd; ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch.
7 O Dduw, pan aethost ti allan o flaen dy bobl, a gorymdeithio ar draws yr anialwch, Sela.
8 crynodd y ddaear a glawiodd y nefoedd o flaen Duw, Duw Sinai, o flaen Duw, Duw Israel.
9 Tywelltaist ddigonedd o law, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd ar ddiffygio;
10 cafodd dy braidd le i fyw ynddi, ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.
11 Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair, ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da
12 fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys; y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail �
13 er eu bod wedi aros ymysg y corlannau � y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian, a'i hesgyll yn aur melyn.
14 Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno, yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon.
15 Mynydd cadarn yw Mynydd Basan, mynydd o gopaon yw Mynydd Basan.
16 O fynydd y copaon, pam yr edrychi'n eiddigeddus ar y mynydd lle dewisodd Duw drigo, lle bydd yr ARGLWYDD yn trigo am byth?
17 Yr oedd cerbydau Duw yn ugain mil, yn filoedd ar filoedd, pan ddaeth yr Arglwydd o Sinai mewn sancteiddrwydd.
18 Aethost i fyny i'r uchelder gyda chaethion ar dy �l, a derbyniaist anrhegion gan bobl, hyd yn oed gwrthryfelwyr, er mwyn i'r ARGLWYDD Dduw drigo yno.
19 Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar �l dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela.
20 Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni; gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.
21 Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion, pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd.
22 Dywedodd yr Arglwydd, "Dof � hwy'n �l o Basan, dof � hwy'n �l o waelodion y m�r,
23 er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed, ac i dafodau dy gu373?n gael eu cyfran o'r gelynion."
24 Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw, gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr �
25 y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn, a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.
26 Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw, a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.
27 Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain, a thyrfa tywysogion Jwda, tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.
28 O Dduw, dangos dy rym, y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.
29 O achos dy deml yn Jerwsalem daw brenhinoedd ag anrhegion i ti.
30 Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd, y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl; sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian, gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.
31 Bydded iddynt ddod � phres o'r Aifft; brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.
32 Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear; rhowch foliant i'r Arglwydd, Sela.
33 i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed. Clywch! Y mae'n llefaru �'i lais nerthol.
34 Cydnabyddwch nerth Duw; y mae ei ogoniant uwchben Israel a'i rym yn y ffurfafen.
35 Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr; y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl. Bendigedig fyddo Duw.