Basque: New Testament

Welsh

Psalms

67

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. C�n.0 Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio, bydded llewyrch ei wyneb arnom, Sela.
2 er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear, a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.
3 Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
4 Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu, oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir, ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear. Sela.
5 Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
6 Rhoes y ddaear ei chnwd; Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.
7 Bendithiodd Duw ni; bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.