1 "Yn y dydd hwnnw bydd ffynnon wedi ei hagor i linach Dafydd ac i drigolion Jerwsalem, ar gyfer pechod ac aflendid.
2 Yn y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "torraf ymaith enwau'r eilunod o'r tir, ac ni chofir hwy mwyach; symudaf hefyd o'r tir y proffwydi ac ysbryd aflendid.
3 Ac os cyfyd un i broffwydo eto, fe ddywed ei dad a'i fam a'i cenhedlodd, 'Ni chei fyw, am iti lefaru twyll yn enw'r ARGLWYDD', a bydd ei dad a'i fam a'i cenhedlodd yn ei ladd wrth iddo broffwydo.
4 Yn y dydd hwnnw bydd ar bob proffwyd gywilydd o'i weledigaeth wrth broffwydo, ac ni fydd yn gwisgo mantell o flew er mwyn twyllo,
5 ond dywed, 'Nid proffwyd wyf fi, ond dyn yn trin tir, a'r tir yn gynhaliaeth imi o'm hieuenctid.'
6 Os dywed rhywun wrtho, 'Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?' fe etyb, 'Fe'u cefais yn nhu375? fy nghyfeillion.'"
7 "Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gu373?r sydd yn f'ymyl," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Taro'r bugail, a gwasgerir y praidd, a rhof fy llaw yn erbyn y rhai bychain.
8 Yn yr holl dir," medd yr ARGLWYDD, "trewir dwy ran o dair, a threngant, a gadewir traean yn fyw.
9 A dygaf y drydedd ran trwy d�n, a'u puro fel y purir arian, a'u profi fel y profir aur. Byddant yn galw ar f'enw, a minnau fy hun yn ateb; dywedaf fi, 'Fy mhobl ydynt', a dywedant hwy, 'Yr ARGLWYDD yw ein Duw'."