1 Wele, y mae diwrnod i'r ARGLWYDD yn dod, ac fe rennir yn dy u373?ydd yr ysbail a gymerwyd oddi arnat.
2 Casglaf yr holl genhedloedd i frwydr yn erbyn Jerwsalem; cymerir y ddinas, ysbeilir y tai, a threisir y gwragedd, caethgludir hanner y ddinas, ond ni thorrir ymaith weddill y bobl o'r ddinas.
3 Yna �'r ARGLWYDD allan i ymladd yn erbyn y cenhedloedd hynny, fel yr ymladd yn nydd brwydr.
4 Yn y dydd hwnnw, gesyd ei draed ar Fynydd yr Olewydd, sydd gyferbyn � Jerwsalem i'r dwyrain; a holltir Mynydd yr Olewydd yn ddau o'r dwyrain i'r gorllewin gan ddyffryn mawr, a symud hanner y mynydd tua'r gogledd a hanner tua'r de.
5 Llenwir y dyffryn rhwng y mynyddoedd (oherwydd y mae'r dyffryn rhyngddynt yn cyrraedd hyd Asal), a bydd wedi ei lenwi fel yr oedd ar �l ei lenwi gan y daeargryn yn amser Usseia brenin Jwda. Yna bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn dod, a'i holl rai sanctaidd gydag ef.
6 Ar y dydd hwnnw ni bydd na gwres, nac oerni, na rhew.
7 A bydd yn un diwrnod � y mae'n wybyddus i'r ARGLWYDD � heb wahaniaeth rhwng dydd a nos; a bydd goleuni gyda'r hwyr.
8 Ar y dydd hwnnw daw dyfroedd bywiol allan o Jerwsalem, eu hanner yn mynd i f�r y dwyrain a'u hanner i f�r y gorllewin, ac fe ddigwydd hyn haf a gaeaf.
9 Yna bydd yr ARGLWYDD yn frenin ar yr holl ddaear; a'r dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn un, a'i enw'n un.
10 Bydd yr holl ddaear yn wastadedd o Geba i Rimmon yn y de, a Jerwsalem yn sefyll yn uchel yn ei lle ac yn boblog o borth Benjamin hyd le'r hen borth, hyd borth y gornel, ac o du373?r Hananel hyd winwryf y brenin.
11 Bydd yn boblog, ac ni fydd dan felltith mwyach, ond gellir byw'n ddiogel ynddi.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r holl bobloedd a fu'n rhyfela yn erbyn Jerwsalem �'r pla hwn: bydd eu cnawd yn pydru, a hwythau'n dal ar eu traed, eu llygaid yn pydru yn eu tyllau, a'u tafod yn eu safn.
13 Ar y dydd hwnnw daw dychryn mawr arnynt oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd y naill yn codi yn erbyn y llall, a byddant yn ymladd yn erbyn ei gilydd;
14 a bydd Jwda'n rhyfela yn Jerwsalem. Cesglir cyfoeth yr holl genhedloedd oddi amgylch � aur ac arian a digonedd o ddillad.
15 A syrth pla tebyg ar geffyl a mul, ar gamel ac asyn, ac ar bob anifail yn eu gwersylloedd.
16 Yna bydd pob un a adawyd o'r holl genhedloedd a ddaeth yn erbyn Jerwsalem yn dod i fyny flwyddyn ar �l blwyddyn i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ac i gadw gu373?yl y Pebyll.
17 A phrun bynnag o deuluoedd y ddaear nad � i fyny i Jerwsalem i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ni ddisgyn glaw arno.
18 Ac os bydd teulu'r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr ARGLWYDD i daro'r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw gu373?yl y Pebyll.
19 Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw'n mynd i fyny i gadw gu373?yl y Pebyll.
20 Ar y dydd hwnnw, bydd "Sanctaidd i'r ARGLWYDD" wedi ei ysgrifennu ar glychau'r meirch, a bydd y cawgiau yn nhu375?'r ARGLWYDD fel y dysglau o flaen yr allor;
21 a bydd pob cawg yn Jerwsalem a Jwda yn sanctaidd i ARGLWYDD y Lluoedd, a bydd pob un sy'n dod i aberthu yn cymryd un ohonynt i ferwi cig. Ni fydd marchnatwr yn nhu375? ARGLWYDD y Lluoedd ar y dydd hwnnw.