1 Ymladdodd y Philistiaid yn erbyn yr Israeliaid, a ffodd yr Israeliaid rhagddynt gan syrthio'n glwyfedig ar Fynydd Gilboa.
1掃羅與他的眾子陣亡(撒上31:1~13)非利士人攻打以色列人;以色列人從非利士人面前逃跑,在基利波山上陣亡的人很多。
2 Daliodd y Philistiaid Saul a'i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab a Malcisua, meibion Saul.
2非利士人緊緊地追趕掃羅和他的兒子;非利士人殺了掃羅的兒子約拿單、亞比拿達和麥基舒亞。
3 Aeth y frwydr yn galed yn erbyn Saul, a daeth saethwyr o hyd iddo a'i glwyfo.
3攻擊掃羅的戰役非常激烈;弓箭手發現了他,就把他射傷。
4 Yna dywedodd Saul wrth ei gludydd arfau, "Tyn dy gleddyf a thrywana fi, rhag i'r rhai dienwaededig hyn ddod a'm gwaradwyddo." Nid oedd ei gludydd arfau yn fodlon, oherwydd yr oedd ofn mawr arno; felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno.
4掃羅對替他拿兵器的人說:“拔出你的刀來,把我刺透,免得這些未受割禮的人來凌辱我。”但替他拿兵器的人不肯這樣作,因為他非常害怕;於是掃羅拿出刀來,自己伏在刀上死了。
5 Pan welodd y cludydd arfau fod Saul wedi marw, syrthiodd yntau ar ei gleddyf a marw.
5替他拿兵器的人看見掃羅死了,他也伏在刀上死了。
6 Felly bu farw Saul a'i dri mab, ei holl deulu yn marw yr un pryd.
6這樣,掃羅和他的三個兒子,以及他的全家,都一同死了。
7 Pan welodd yr holl Israeliaid oedd yn y dyffryn fod y fyddin wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant eu trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt.
7所有在山谷的以色列人,看見以色列軍逃跑,掃羅和他的兒子都死了,他們就棄城逃跑,非利士人就來住在城中。
8 Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i feibion yn farw ar Fynydd Gilboa.
8第二天,非利士人來剝那些被殺的人的衣物的時候,發現掃羅和他的兒子都倒斃在基利波山上。
9 Wedi iddynt ei ysbeilio torasant ei ben a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon neges drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da i'w delwau ac i'r bobl.
9他們就剝了他的衣服,拿了他的頭和兵器,又派人到非利士地的各處,去向他們的偶像和人民報信。
10 Rhoesant ei arfau yn nheml eu duwiau, a chrogi ei benglog yn nheml Dagon.
10他們把掃羅的兵器放在他們的神廟裡,把他的頭掛在大袞廟中。
11 Pan glywodd pobl Jabes-gilead y cwbl yr oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,
11基列.雅比人聽見非利士人向掃羅所行的事,
12 aeth yr holl ryfelwyr allan ar unwaith a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion, a'u cludo i Jabes a chladdu eu hesgyrn dan y dderwen yno, ac ymprydio am saith diwrnod.
12所有的勇士就動身,把掃羅的屍體和他兒子的屍體收殮起來,帶回雅比,把他們的骸骨埋葬在雅比的橡樹下,並且禁食七天。
13 Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD.
13掃羅死了,因為他悖逆耶和華,沒有聽從他的話,也因為他去求問那交鬼的,
14 Felly lladdodd yr ARGLWYDD ef a rhoi'r frenhiniaeth i Ddafydd fab Jesse.
14沒有求問耶和華,所以耶和華把他殺死了,把國位轉給耶西的兒子大衛。