Welsh

聖經新譯本

1 Samuel

16

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Am ba hyd yr wyt yn mynd i ofidio am Saul, a minnau wedi ei wrthod fel brenin ar Israel? Llanw dy gorn ag olew a dos; yr wyf yn dy anfon at Jesse o Fethlehem, oherwydd yr wyf wedi gweld brenin imi ymysg ei feibion ef."
1撒母耳往伯利恆見耶西耶和華對撒母耳說:“你為掃羅悲哀要到幾時呢?我已經棄絕他作以色列的王了。你把膏油盛滿了角,然後去吧!我要差派你到伯利恆人耶西那裡去,因為我在他的眾子中,已經預定了一個為我作王。”
2 Gofynnodd Samuel, "Sut y medraf fi fynd? Os clyw Saul, fe'm lladd." Dywedodd yr ARGLWYDD, "Dos � heffer gyda thi, a dweud dy fod wedi dod i aberthu i'r ARGLWYDD.
2撒母耳說:“我怎能去呢?掃羅聽見了,必定殺我。”耶和華說:“你可以帶一頭母牛犢去,就說:‘我來是要向耶和華獻祭。’
3 Rho wahoddiad i Jesse i'r aberth; dangosaf finnau iti beth i'w wneud, ac eneinia imi yr un a ddywedaf wrthyt."
3你要請耶西參加獻祭的筵席,我就會指示你當作的。我指示你的那人,你要為我膏立他。”
4 Gwnaeth Samuel fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, a mynd i Fethlehem. Pan ddaeth henuriaid y dref yn gynhyrfus i'w gyfarfod a gofyn, "Ai mewn heddwch y daethost?"
4於是撒母耳照著耶和華的話去行。他到了伯利恆的時候,城裡的長老就都戰戰兢兢地出來迎接他,說:“你是為平安來的嗎?”
5 atebodd yntau, "Ie, mewn heddwch. I aberthu i'r ARGLWYDD yr wyf fi yma; ymgysegrwch ac ymunwch � mi yn yr aberth."
5他回答:“是為平安來的。我來是要向耶和華獻祭。你們要自潔,與我一同參加獻祭的筵席。”撒母耳使耶西和他的兒子自潔,邀請他們來參加獻祭的筵席。
6 Cysegrodd yntau Jesse a'i feibion, a'u gwahodd i'r aberth. Fel yr oeddent yn dod, sylwodd ar Eliab a meddyliodd, "Yn sicr dyma'i eneiniog, gerbron yr ARGLWYDD."
6撒母耳膏立大衛為王他們來到的時候,撒母耳看見以利押,就心裡想:“在耶和華面前的這位,必是他所要膏立的。”
7 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Paid ag edrych ar ei wedd na'i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a w�l meidrolyn y mae Duw'n ei weld. Yr hyn sydd yn y golwg a w�l meidrolyn, ond y mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon."
7但耶和華對撒母耳說:“不要看他的外貌和他高大的身材,因為我不揀選他。耶和華看人不像人看人,人是看外表,耶和華是看內心。”
8 Yna galwodd Jesse am Abinadab a'i ddwyn gerbron, ond dywedodd Samuel, "Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD."
8耶西叫亞比拿達在撒母耳面前經過,撒母耳說:“這也不是耶和華所揀選的。”
9 Yna parodd Jesse i Samma ddod, ond dywedodd Samuel, "Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD."
9耶西又叫沙瑪經過。撒母耳說:“耶和華也不揀選這個。”
10 A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, "Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn."
10耶西叫他的七個兒子都在撒母耳面前經過。但撒母耳對耶西說:“這些都不是耶和華所揀選的。”
11 Yna gofynnodd Samuel i Jesse, "Ai dyma'r bechgyn i gyd?" Atebodd yntau, "Y mae'r ieuengaf ar �l, yn bugeilio'r defaid." Ac meddai Samuel wrth Jesse, "Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod."
11撒母耳問耶西:“孩子們全都在這裡嗎?”耶西回答:“還有一個最小的,正在牧羊。”撒母耳對耶西說:“你派人去把他帶回來,因為他沒有來到以前,我們決不入席。”
12 Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, "Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw."
12耶西就派人去把大衛帶回來。他面色紅潤,眼目清秀,外貌英俊。耶和華說:“就是這一個,你起來膏立他吧!”
13 Cymerodd Samuel y corn olew, a'i eneinio yng nghanol ei frodyr; a disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw ymlaen. Yna aeth Samuel yn �l i Rama.
13撒母耳就拿起盛油的角,在他的兄長中膏立他。從那天起,耶和華的靈就大大感動大衛。後來撒母耳動身往拉瑪去了。
14 Ciliodd ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrth Saul, a dechreuodd ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD aflonyddu arno.
14大衛被召入宮為掃羅彈琴耶和華的靈離開了掃羅。有惡鬼從耶和華那裡來驚擾他。
15 Dywedodd gweision Saul wrtho, "Dyma sydd o'i le: y mae un o'r ysbrydion drwg yn aflonyddu arnat.
15掃羅的臣僕對他說:“看哪!有惡鬼從 神那裡來驚擾你。
16 O na fyddai'n meistr yn gorchymyn i'w weision yma chwilio am u373?r sy'n medru canu telyn! Caiff yntau ei chanu pan fydd yr ysbryd drwg yn ymosod arnat, a byddi dithau'n well."
16願我們的主吩咐你面前的臣僕,去尋找一位善於彈琴的人;從 神那裡來的靈臨到你身上的時候,他可以彈琴,你就好了。”
17 Dywedodd Saul wrth ei weision, "Chwiliwch am ddyn sy'n delynor da, a dewch ag ef ataf."
17掃羅對他的臣僕說:“你們可以為我找一個善於彈琴的人,帶到我這裡來。”
18 Atebodd un o'r gweision, "Mi welais fab i Jesse o Fethlehem, sy'n medru canu telyn, ac y mae'n u373?r dewr ac yn rhyfelwr; y mae'n siarad yn ddeallus ac yn un golygus hefyd, ac y mae'r ARGLWYDD gydag ef."
18有一個僕人回答:“我見過伯利恆人耶西的一個兒子,他善於彈琴,是個大能的勇士,又是個戰士,談吐合宜,容貌俊美,耶和華也與他同在。”
19 Anfonodd Saul negeswyr at Jesse a dweud, "Anfon ataf dy fab Dafydd sydd gyda'r defaid."
19於是掃羅派遣使者去見耶西,說:“請你叫你放羊的兒子大衛到我這裡來。”
20 Cymerodd Jesse asyn gyda baich o fara, costrel o win, a myn gafr, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul.
20耶西就牽來一頭驢子,馱上餅、一皮袋酒和一隻山羊羔,交給他的兒子大衛送給掃羅。
21 Aeth Saul yn hoff iawn o Ddafydd pan ddaeth i weini ato, a gwnaeth ef yn gludydd arfau iddo.
21大衛到了掃羅那裡,就侍立在他面前。掃羅很愛他,他就作了替掃羅拿武器的人。
22 Anfonodd Saul at Jesse a dweud, "Yr wyf am i Ddafydd gael aros yn fy ngwasanaeth, oherwydd yr wyf wrth fy modd gydag ef."
22掃羅再派人到耶西那裡去,說:“請你讓大衛侍立在我面前吧,因為我喜歡他。”
23 Pryd bynnag y byddai'r ysbryd drwg yn blino Saul, byddai Dafydd yn cymryd ei delyn ac yn ei chanu; rhoddai hynny esmwyth�d i Saul a'i wella, fel bod yr ysbryd drwg yn cilio oddi wrtho.
23每逢從 神那裡來的惡鬼臨到掃羅身上的時候,大衛就拿起琴來彈奏,掃羅就舒服暢快,惡鬼也離開了他。