1 Dywedodd Duw wrth Jacob, "Cod, dos i fyny i Fethel, ac aros yno; a gwna yno allor i'r Duw a ymddangosodd iti pan oeddit yn ffoi rhag dy frawd Esau."
1雅各回到伯特利 神對雅各說:“起來,上伯特利去,住在那裡;你要在那裡築一座壇給 神,就是從前你逃避你哥哥以掃的時候,向你顯現的那一位。”
2 Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef, "Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, ac ymlanhau, a newid eich dillad.
2雅各就對他的家人,和所有與他在一起的人說:“你們要除去你們中間外族人的神像,你們要潔淨自己,更換你們的衣服。
3 Codwn ac awn i fyny i Fethel, er mwyn imi wneud allor yno i'r Duw a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda mi ar fy nhaith."
3我們要起程,上伯特利去;我要在那裡給 神築一座祭壇,他就是在我遭患難的時候應允我的呼求,在我所行的路上與我同行的那一位。”
4 Felly rhoesant i Jacob yr holl dduwiau dieithr oedd yn eu meddiant a'r modrwyau oedd yn eu clustiau, a chuddiodd Jacob hwy dan y dderwen ger Sichem.
4他們就把自己手中所有外族人的神像,和自己耳朵上的環子,都交給雅各;雅各把這些東西埋在示劍附近的橡樹底下。
5 Fel yr oeddent yn teithio, daeth arswyd mawr ar y dinasoedd o amgylch, fel na fu iddynt ymlid meibion Jacob.
5他們出發了, 神使周圍的城市都非常懼怕,他們就不追趕雅各的兒子。
6 A daeth Jacob a'r holl bobl oedd gydag ef i Lus, hynny yw Bethel, yng ngwlad Canaan,
6於是雅各和與他在一起的人,到了迦南地的路斯,就是伯特利。
7 ac adeiladodd allor yno, ac enwi'r lle El-bethel, am mai yno yr ymddangosodd Duw iddo pan oedd yn ffoi rhag ei frawd.
7他在那裡築了一座壇,就稱那地方為伊勒.伯特利,因為他逃避他哥哥的時候, 神曾經在那裡向他顯現。
8 A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth.
8利百加的乳母底波拉死了,葬在伯特利下邊的橡樹底下,所以給那棵樹起名叫亞倫.巴古。
9 Ymddangosodd Duw eto i Jacob, ar �l iddo ddod o Padan Aram, a'i fendithio.
9雅各從巴旦.亞蘭回來以後, 神再次向他顯現,賜福給他。
10 Dywedodd Duw wrtho, "Jacob yw dy enw, ond nid Jacob y gelwir di o hyn allan; Israel fydd dy enw." Ac enwyd ef Israel.
10 神對他說:“你的名原是雅各,但以後不要再叫雅各,以色列才是你的名。”這樣, 神給他改名叫以色列。
11 A dywedodd Duw wrtho, "Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau.
11 神對他說:“我是全能的 神,你要繁殖增多,必有一大國從你而生,又必有很多君王從你而出。
12 Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy �l."
12我賜給亞伯拉罕和以撒的地,我要賜給你,我也要把這地賜給你的後裔。”
13 Yna aeth Duw i fyny o'r man lle bu'n llefaru wrtho.
13 神從與雅各談話的地方,離開他上升去了。
14 A gosododd Jacob golofn, sef colofn garreg, yn y lle y llefarodd wrtho; tywalltodd arni ddiodoffrwm, ac arllwys olew arni.
14雅各就在 神與他談話的地方,立了一根石柱;在柱上澆了奠祭和油。
15 Felly enwodd Jacob y lle y llefarodd Duw wrtho, Bethel.
15雅各給 神與他談話的地方起名叫伯特利。
16 Yna aethant o Fethel. Pan oedd eto beth ffordd o Effrath, esgorodd Rachel, a bu'n galed arni wrth esgor.
16拉結因難產而逝世他們從伯特利起程,離以法他還有一段路程的時候,拉結產期到了;但她遇到難產。
17 A phan oedd yn ei gwewyr, dywedodd y fydwraig wrthi, "Paid ag ofni, oherwydd mab arall sydd gennyt."
17她正在極辛苦的時候,接生婆對她說:“不要怕,你這次又得了一個兒子。”
18 Ac fel yr oedd yn gwanychu wrth farw, rhoes iddo'r enw Ben-oni; ond galwodd ei dad ef Benjamin.
18拉結快要死了,正要斷氣的時候,她給她兒子起名叫便.俄尼;他的父親卻叫他便雅憫。
19 Yna bu farw Rachel, a chladdwyd hi ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem,
19拉結死了,葬在通往以法他的路旁。以法他就是伯利恆。
20 a gosododd Jacob golofn ar ei bedd; hon yw colofn bedd Rachel, sydd yno hyd heddiw.
20雅各在她的墳墓上立了一根柱子,就是拉結的墓碑,到今天還在。
21 Teithiodd Israel yn ei flaen, a gosod ei babell y tu draw i Migdal-eder.
21以色列又起程前行,在以得臺那邊支搭了帳棚。
22 Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn. Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob.
22以色列的眾子(代上2:1~2)以色列在那地居住的時候,流本竟去與他父親的妾辟拉同睡;這事以色列也聽見了。雅各共有十二個兒子。
23 Meibion Lea: Reuben cyntafanedig Jacob, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
23利亞的兒子有:雅各的長子流本,以及西緬、利未、猶大、以薩迦和西布倫。
24 Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
24拉結的兒子有:約瑟和便雅憫。
25 Meibion Bilha morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
25拉結的婢女辟拉的兒子有:但和拿弗他利。
26 Meibion Silpa morwyn Lea: Gad ac Aser. Dyma'r meibion a anwyd iddo yn Padan Aram.
26利亞的婢女悉帕的兒子有:迦得和亞設。這些都是雅各在巴旦.亞蘭所生的兒子。
27 Daeth Jacob at ei dad Isaac i Mamre, neu Ciriath-arba, hynny yw Hebron, lle bu Abraham ac Isaac yn aros dros dro.
27雅各來到基列.亞巴的幔利他父親以撒那裡,基列.亞巴就是希伯崙,是亞伯拉罕和以撒寄居過的地方。
28 Cant a phedwar ugain oedd oed Isaac.
28以撒逝世以撒一生的年日共一百八十歲。
29 Yna anadlodd Isaac ei anadl olaf, a bu farw, a'i gasglu at ei bobl yn hen ac oedrannus. Claddwyd ef gan ei feibion Esau a Jacob.
29以撒年紀老邁,享盡天年,就氣絕而死,歸到他的親族那裡去了;他兒子以掃和雅各把他葬了。