1 Mor brydferth wyt, f'anwylyd, mor brydferth wyt! Y tu �l i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod, a'th wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead.
1
2 Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifio yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad.
2
3 Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad, a'th enau yn hyfryd; y tu �l i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad.
3
4 Y mae dy wddf fel tu373?r Dafydd, wedi ei adeiladu, rhes ar res, a mil o estylch yn crogi arno, y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr.
4
5 Y mae dy ddwy fron fel dwy elain, gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lil�au.
5
6 Cyn i awel y dydd godi, ac i'r cysgodion ddiflannu, fe af i'r mynydd myrr, ac i fryn y thus.
6
7 Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd; nid oes yr un brycheuyn arnat.
7
8 O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon, tyrd gyda mi o Lebanon; tyrd i lawr o gopa Amana, ac o ben Senir a Hermon, o ffeuau'r llewod a mynyddoedd y llewpardiaid.
8
9 Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon, wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad, ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.
9
10 Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch! Y mae dy gariad yn well na gwin, ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.
10
11 O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau m�l, y mae m�l a llaeth dan dy dafod, ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon.
11
12 Gardd wedi ei chau i mewn yw fy chwaer a'm priodferch, gardd wedi ei chau i mewn, ffynnon wedi ei selio.
12
13 Y mae dy blanhigion yn berllan o bomgranadau, yn llawn o'r ffrwythau gorau, henna a nard,
13
14 nard a saffrwn, calamis a sinamon, hefyd yr holl goed thus, myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau.
14
15 Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd byw yn ffrydio o Lebanon.
15
16 Deffro, O wynt y gogledd, a thyrd, O wynt y de; chwyth ar fy ngardd i wasgaru ei phersawr. Doed fy nghariad i'w ardd, a bwyta ei ffrwyth gorau.
16