1 Yr wyf wedi dod i'm gardd, fy chwaer a'm priodferch; cesglais fy myrr a'm perlysiau, a bwyta fy niliau a'm m�l, ac yfed fy ngwin a'm llaeth. Gyfeillion, bwytewch ac yfwch, nes meddwi ar gariad.
1
2 Yr oeddwn yn cysgu, ond �'m calon yn effro. Ust! Y mae fy nghariad yn curo: "Agor imi, fy chwaer, f'anwylyd, fy ngholomen, yr un berffaith yn fy ngolwg, oherwydd y mae fy ngwallt yn diferu o wlith, a'm barf o ddefnynnau'r nos."
2
3 Ond yr wyf wedi diosg fy mantell; a oes raid imi ei gwisgo eto? Yr wyf wedi golchi fy nhraed; a oes raid imi eu maeddu eto?
3
4 Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied, yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.
4
5 Codais i agor i'm cariad, ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr, a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.
5
6 Pan agorais i'm cariad, yr oedd wedi cilio a mynd ymaith, ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd; chwiliais amdano, ond heb ei gael; gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.
6
7 Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod, wrth iddynt fynd o amgylch y dref, a rhoesant gurfa imi a'm niweidio; bu i'r rhai oedd yn gwylio'r mur ddwyn fy mantell oddi arnaf.
7
8 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch. Os dewch o hyd i'm cariad, dywedwch wrtho fy mod yn glaf o gariad.
8
9 A yw dy gariad di yn well nag eraill, O ti, y decaf o ferched? A yw dy gariad di yn well nag eraill, i beri iti ymbil fel hyn arnom?
9
10 Y mae fy nghariad yn deg a gwridog, yn sefyll allan ymysg deng mil.
10
11 Y mae ei ben fel aur coeth, a'i wallt yn gyrliog, yn ddu fel y fr�n.
11
12 Y mae ei lygaid fel colomennod wrth ffrydiau du373?r, wedi eu golchi � llaeth, a'u gosod yn briodol yn eu lle.
12
13 Y mae ei ruddiau fel gwely perlysiau yn gwasgaru persawr; y mae ei wefusau fel lil�au yn diferu o fyrr rhedegog.
13
14 Y mae ei ddwylo fel dysglau aur yn llawn gemau; y mae ei gorff fel gwaith ifori wedi ei orchuddio � saffir.
14
15 Y mae ei goesau fel colofnau o farmor, wedi eu gosod ar sylfaen o aur, a'i ymddangosiad fel Lebanon, mor urddasol �'r cedrwydd.
15
16 Y mae ei wefusau yn felys; y mae popeth ynddo'n ddymunol. Un fel hyn yw fy nghariad, un fel hyn yw fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
16