Welsh

聖經新譯本

Song of Solomon

6

1 O ti, y decaf o ferched, ple'r aeth dy gariad? Pa ffordd yr aeth dy gariad, inni chwilio amdano gyda thi?
1
2 Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd, i'r gwelyau perlysiau, i ofalu am y gerddi, ac i gasglu'r lil�au.
2
3 Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad, ac yntau'n eiddof finnau; y mae'n bugeilio ymysg y lil�au.
3
4 Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd, yn hardd fel Jerwsalem, mor urddasol � llu banerog.
4
5 Tro dy lygaid oddi wrthyf, y maent yn fy nghyffroi; y mae dy wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead.
5
6 Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad.
6
7 Y tu �l i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad.
7
8 Er bod trigain o freninesau a phedwar ugain o ordderchwragedd, a llancesau na ellir eu rhifo,
8
9 y mae fy ngholomen, yr un berffaith, ar ei phen ei hun, unig blentyn ei mam, y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni. Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd, ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.
9
10 Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?
10
11 Euthum i lawr i'w ardd gnau i edrych ar ffrwythau'r dyffryn, a gweld a oedd y winwydden yn blaguro, a blodau ar y pomgranadau.
11
12 Ni wyddwn y cawn fy rhoi yng ngherbydau perthnasau'r tywysog.
12
13 Tyrd yn �l, tyrd yn �l, Sulames! Tyrd yn �l, tyrd yn �l, gad inni dy weld. O fel yr hoffwch edrych ar y Sulames yn dawnsio rhwng y rhengoedd!
13