Welsh

聖經新譯本 (Simplified)

Daniel

5

1 Gwnaeth y Brenin Belsassar wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac yfodd win gyda hwy.
1伯沙撒王大宴群臣
2 Wedi cael blas y gwin, gorchmynnodd Belsassar ddwyn y llestri aur ac arian a ladrataodd ei dad Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem, er mwyn i'r brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd yfed ohonynt.
2伯沙撒喝酒欢畅的时候,下令把他先祖尼布甲尼撒从耶路撒冷圣殿里掠取的金银器皿拿来,好让他和他的大臣、妻妾、妃嫔用这些器皿来喝酒。
3 Felly dygwyd y llestri aur a ladratawyd o'r deml yn Jerwsalem, ac yfodd y brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd ohonynt.
3于是人把从耶路撒冷圣殿里,就是 神的殿里,掠来的金银器皿拿来;王和他的大臣、妻妾、妃嫔就用这些器皿来喝酒。
4 Wrth yfed y gwin, yr oeddent yn moliannu duwiau o aur ac arian, o bres a haearn, o bren a charreg.
4他们喝酒,赞美那些用金、银、铜、铁、木、石所做的神。
5 Yn sydyn, ymddangosodd bysedd llaw ddynol yn ysgrifennu ar blastr y pared gyferbyn �'r canhwyllbren yn llys y brenin, a gwelai'r brenin y llaw ddynol yn ysgrifennu.
5指头在墙上写字当时,忽然有人手的指头出现,在王宫里灯台对面的粉墙上写字;王看见了那只正在写字的手掌,
6 Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig.
6就脸色大变,心意惊惶,两脚无力,双膝彼此相碰。
7 Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r s�r-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, "Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas."
7王大声呼叫,吩咐人把那些用法术的和迦勒底人,以及占星家都领进来;王对巴比伦的智慧人说:“谁能读这文字,又能向我解释它的意思,他必身穿紫袍,颈戴金链,在国中掌权,位列第三。”
8 Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin.
8于是王所有的智慧人都进来,却不能读那文字,也不能把意思向王说明。
9 Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch.
9伯沙撒王就非常惊惶,脸色大变;他的大臣也都不知所措。
10 Wrth glywed su373?n y brenin a'i dywysogion, daeth y frenhines i'r ystafell fwyta a dweud, "O frenin, bydd fyw byth! Paid ag edrych mor gynhyrfus a gwelw.
10太后举荐但以理太后因王和他的大臣所说的话,就进入宴会的大厅,对王说:“愿王万岁!你的心意不要惊惶,也不要脸色大变。
11 Y mae gu373?r yn dy deyrnas sy'n llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd, ac yn amser dy dad dangosodd oleuni a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau; a gwnaed ef gan dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, yn ben ar y dewiniaid a'r swynwyr a'r Caldeaid a'r s�r-ddewiniaid.
11在你国中有一个人,他里面有圣神的灵;你先祖在世的日子,发现这人有灼见,有聪明,有智慧,好像神的智慧一样。你先祖尼布甲尼撒王,就是王的先祖,曾立他为术士、用法术的,以及迦勒底人和占星家的领袖。
12 Gan fod yn Daniel, a alwodd y brenin yn Beltesassar, ysbryd ardderchog, a deall a dirnadaeth, a'r gallu i ddehongli breuddwydion ac esbonio dirgelion a datrys problemau, anfon yn awr am Daniel; gall ef roi dehongliad."
12这都因为在这但以理里面有美好的灵性,有知识,有聪明,能解梦,释谜语,能解答难题;这人尼布甲尼撒王曾给他起名叫伯提沙撒。现在可以把但以理召来,他必能解释墙上文字的意思。”
13 Yna daethpwyd � Daniel at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo, "Ai ti yw Daniel, un o'r caethgludion a ddug fy nhad, y brenin, o Jwda?
13于是但以理被带到王面前,王问但以理说:“你就是我先王从犹大掳来的犹大人但以理吗?
14 Rwy'n clywed fod ysbryd y duwiau ynot a'th fod yn llawn o oleuni a deall a doethineb ragorol.
14我听说你里面有神的灵,有灼见,有聪明,有高超的智慧。
15 Er i'r doethion a'r swynwyr ddod yma i ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, nid ydynt yn medru rhoi dehongliad ohoni.
15现在智慧人和用法术的都被带到我面前了,我要他们读这文字,把文字的意思向我说明,可是他们都不能解释这文字的意思。
16 Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi deongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas."
16我听说你能解释异梦,也能解答难题。现在你若能读这文字,把它的意思向我说明,就必身穿紫袍,颈戴金链,在国中掌权,位列第三。”
17 Yna atebodd Daniel y brenin, "Cei gadw d'anrhegion, a rhoi dy wobrwyon i eraill, ond fe ddarllenaf yr ysgrifen a'i dehongli i'r brenin.
17但以理直言责王但以理在王面前回答说:“你的礼物可以归你自己,你的赏赐可以归给别人;我却要为王读这文字,也要把意思向王说明。
18 Rhoes y Duw Goruchaf frenhiniaeth a mawredd a gogoniant ac urddas i'th dad Nebuchadnesar.
18王啊!至高的 神曾把国位、权势、光荣和威严赐给你先祖尼布甲尼撒。
19 Ac oherwydd y mawredd a roed iddo, yr oedd yr holl bobloedd, cenhedloedd ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o'i flaen. Gallai ladd neu gadw'n fyw, dyrchafu neu ddarostwng y neb a fynnai.
19因 神所赐给他的权势,各国、各族和说各种语言的人,都在他面前战兢恐惧;他要杀谁,就杀谁;要谁活着,谁就可以活着;要提升谁,就提升谁;要贬低谁,就贬低谁。
20 Ond pan ymffrostiodd a mynd yn falch, fe'i diorseddwyd a chymerwyd ei ogoniant oddi arno.
20但他心高气傲、妄自尊大的时候,就从国位上被赶下来,他的尊荣也被夺去。
21 Gyrrwyd ef o u373?ydd pobl, rhoddwyd iddo galon anifail, ac yr oedd ei gartref gyda'r asynnod gwylltion. Yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ac yr oedd ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, nes iddo wybod mai'r Duw Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.
21他被赶逐,离开人群,他的心变如兽心,他和野驴同住,像牛一样吃草,身体被天露滴湿;等到他承认至高的 神在世人的国中掌权,他喜欢谁,就立谁执掌国权。
22 Ond amdanat ti, ei fab Belsassar, er iti wybod hyn oll, ni ddarostyngaist dy hun.
22伯沙撒啊!你是他的子孙,你虽然知道这一切,你的心仍不谦卑,
23 Yr wyt wedi herio Arglwydd y Nefoedd trwy ddod � llestri ei du375? ef o'th flaen, a thithau a'th dywysogion a'th wragedd a'th ordderchwragedd yn yfed gwin ohonynt. Yr wyt wedi moliannu duwiau o arian ac aur, o bres a haearn, o bren a charreg, nad ydynt yn clywed dim, nac yn gweld nac yn gwybod; ac nid wyt wedi mawrhau'r Duw y mae d'einioes a'th ffyrdd yn ei law.
23竟高抬自己,敌对天上的主,使人把他殿中的器皿拿到你面前来,你和你的大臣、妻妾、妃嫔用这些器皿喝酒;你又赞美那些不能看见、不能听见、什么都不能知道,用金、银、铜、铁、木、石所做的神,却没有把荣耀归给那手中有你的气息,和那掌管你一切命途的 神。
24 Dyna pam yr anfonwyd y llaw i ysgrifennu'r geiriau hyn.
24因此,有手从 神那里伸出来,写了这文字。
25 Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: 'Mene, Mene, Tecel, Wparsin.'
25解释墙上文字的意义“所写的文字是:‘弥尼,弥尼,提客勒,乌法珥新。’
26 A dyma'r dehongliad. 'Mene': rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben.
26这文字的意思是这样:‘弥尼’就是 神已数算了你国度的年日,使国终止;
27 'Tecel': pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin.
27‘提客勒’就是你被称在天平上,显出你的缺欠;
28 'Peres': rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid."
28‘毗勒斯’(“毗勒斯”即“乌法珥新”的单数式)就是你的国要分裂,归给玛代人和波斯人。”
29 Yna, ar orchymyn Belsassar, cafodd Daniel wisg borffor, a chadwyn o aur am ei wddf, a'i benodi yn drydydd llywodraethwr yn y deyrnas.
29于是伯沙撒下令,人就把紫袍给但以理穿上,把金链戴在他的颈上,又宣告他在国中掌权,位列第三。
30 A'r noson honno lladdwyd Belsassar, brenin y Caldeaid.
30伯沙撒王被杀而亡国当夜,迦勒底人的王伯沙撒被杀。
31 A derbyniodd Dareius y Mediad y deyrnas, yn u373?r dwy a thrigain oed.
31玛代人大利乌夺取了迦勒底国;那时他六十二岁。(本节在《马索拉抄本》为6:1)