1 Oherwydd hyn, yr wyf fi, Paul, carcharor Crist Iesu er eich mwyn chwi'r Cenhedloedd, yn offrymu fy ngweddi.
1For this cause I Paul, the prisoner of Jesus Christ for you Gentiles,
2 Y mae'n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi:
2If ye have heard of the dispensation of the grace of God which is given me to you-ward:
3 sef i'r dirgelwch gael ei hysbysu i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu'n fyr am hyn,
3How that by revelation he made known unto me the mystery; (as I wrote afore in few words,
4 ac o'i ddarllen gallwch ddeall fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist.
4Whereby, when ye read, ye may understand my knowledge in the mystery of Christ)
5 Yn y cenedlaethau gynt, ni chafodd y dirgelwch hwn mo'i hysbysu i blant dynion, fel y mae yn awr wedi ei ddatguddio gan Ysbryd Duw i'w apostolion sanctaidd a'i broffwydi.
5Which in other ages was not made known unto the sons of men, as it is now revealed unto his holy apostles and prophets by the Spirit;
6 Dyma'r dirgelwch: bod y Cenhedloedd, ynghyd �'r Iddewon, yn gydetifeddion, yn gydaelodau o'r corff, ac yn gydgyfranogion o'r addewid yng Nghrist Iesu trwy'r Efengyl.
6That the Gentiles should be fellowheirs, and of the same body, and partakers of his promise in Christ by the gospel:
7 Dyma'r Efengyl y deuthum i yn weinidog iddi yn �l rhodd gras Duw, a roddwyd i mi trwy weithrediad ei allu ef.
7Whereof I was made a minister, according to the gift of the grace of God given unto me by the effectual working of his power.
8 I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y rhodd raslon hon, i bregethu i'r Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist,
8Unto me, who am less than the least of all saints, is this grace given, that I should preach among the Gentiles the unsearchable riches of Christ;
9 ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth,
9And to make all men see what is the fellowship of the mystery, which from the beginning of the world hath been hid in God, who created all things by Jesus Christ:
10 er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd.
10To the intent that now unto the principalities and powers in heavenly places might be known by the church the manifold wisdom of God,
11 Y mae hyn yn unol �'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
11According to the eternal purpose which he purposed in Christ Jesus our Lord:
12 Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus.
12In whom we have boldness and access with confidence by the faith of him.
13 Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio � digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi.
13Wherefore I desire that ye faint not at my tribulations for you, which is your glory.
14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad,
14For this cause I bow my knees unto the Father of our Lord Jesus Christ,
15 yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho,
15Of whom the whole family in heaven and earth is named,
16 ac yn gwedd�o ar iddo ganiat�u i chwi, yn �l cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd,
16That he would grant you, according to the riches of his glory, to be strengthened with might by his Spirit in the inner man;
17 ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd.
17That Christ may dwell in your hearts by faith; that ye, being rooted and grounded in love,
18 Boed i chwi, sydd � chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd �'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist,
18May be able to comprehend with all saints what is the breadth, and length, and depth, and height;
19 a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.
19And to know the love of Christ, which passeth knowledge, that ye might be filled with all the fulness of God.
20 Iddo ef, sydd �'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni,
20Now unto him that is able to do exceeding abundantly above all that we ask or think, according to the power that worketh in us,
21 iddo ef y bo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.
21Unto him be glory in the church by Christ Jesus throughout all ages, world without end. Amen.