1 Ar ddiwedd pob saith mlynedd yr wyt i ddileu dyledion.
1At the end of every seven years thou shalt make a release.
2 Dyma sut y gwneir hynny: bydd pob echwynnwr yn dileu pob dyled sy'n ddyledus iddo, heb bwyso am ad-daliad oddi wrth gymydog na pherthynas, pan gyhoeddir yn enw'r ARGLWYDD ei bod yn bryd dileu dyledion.
2And this is the manner of the release: every creditor shall release that which he hath lent unto his neighbor; he shall not exact it of his neighbor and his brother; because Jehovah's release hath been proclaimed.
3 Cei bwyso am ad-daliad gan estron, ond yr wyt i ddileu beth bynnag sy'n ddyledus iti gan dy berthynas.
3Of a foreigner thou mayest exact it: but whatsoever of thine is with thy brother thy hand shall release.
4 Ni fydd byth dlotyn yn eich plith, oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'th fendithio yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth,
4Howbeit there shall be no poor with thee; (for Jehovah will surely bless thee in the land which Jehovah thy God giveth thee for an inheritance to possess it;)
5 ond iti wrando'n ofalus ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i gadw'n ddyfal yr holl orchymyn hwn yr wyf fi yn ei roi iti heddiw.
5if only thou diligently hearken unto the voice of Jehovah thy God, to observe to do all this commandment which I command thee this day.
6 A phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio, fel yr addawodd iti, yna byddi di'n rhoi benthyg i genhedloedd lawer, heb i ti fenthyca gan neb; a byddi'n rheoli cenhedloedd lawer, heb iddynt hwy dy reoli di.
6For Jehovah thy God will bless thee, as he promised thee: and thou shalt lend unto many nations, but thou shalt not borrow; and thou shalt rule over many nations, but they shall not rule over thee.
7 Os bydd un yn dlawd ymhlith dy berthnasau yn un o'th drefi yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, paid � chaledu dy galon na chau dy law yn ei erbyn.
7If there be with thee a poor man, one of thy brethren, within any of thy gates in thy land which Jehovah thy God giveth thee, thou shalt not harden thy heart, nor shut thy hand from thy poor brother;
8 Yn hytrach agor dy law yn llydan iddo, ac ar bob cyfrif rho'n fenthyg iddo ddigon ar gyfer ei angen.
8but thou shalt surely open thy hand unto him, and shalt surely lend him sufficient for his need [in that] which he wanteth.
9 Pan fydd y seithfed flwyddyn, blwyddyn dileu dyledion, yn agos�u, gwylia rhag coleddu meddyliau annheilwng ac edrych yn gas ar dy berthynas tlawd a gwrthod rhoi iddo; bydd yntau wedyn yn apelio at yr ARGLWYDD yn dy erbyn, ac fe'th geir yn euog o bechod.
9Beware that there be not a base thought in thy heart, saying, The seventh year, the year of release, is at hand; and thine eye be evil against thy poor brother, and thou give him nought; and he cry unto Jehovah against thee, and it be sin unto thee.
10 Rho'n hael iddo, heb warafun yn dy galon wrth roi, ac oherwydd hyn bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl waith ac ym mhopeth a wnei.
10Thou shalt surely give him, and thy heart shall not be grieved when thou givest unto him; because that for this thing Jehovah thy God will bless thee in all thy work, and in all that thou puttest thy hand unto.
11 Ni fydd prinder tlodion yn y tir; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti agor dy law yn hael i'th berthynas anghenus a thlawd yn dy wlad.
11For the poor will never cease out of the land: therefore I command thee, saying, Thou shalt surely open thy hand unto thy brother, to thy needy, and to thy poor, in thy land.
12 Os gwerthir iti gydwladwr, boed ddyn neu ddynes, a hwnnw'n dy wasanaethu am chwe blynedd, yr wyt i'w ryddhau yn y seithfed flwyddyn.
12If thy brother, a Hebrew man, or a Hebrew woman, be sold unto thee, and serve thee six years; then in the seventh year thou shalt let him go free from thee.
13 A phan fyddi'n ei ryddhau, paid �'i anfon i ffwrdd yn waglaw;
13And when thou lettest him go free from thee, thou shalt not let him go empty:
14 rho iddo gynhysgaeth hael o'th ddefaid a'th lawr dyrnu a'th winwryf, fel y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio di.
14thou shalt furnish him liberally out of thy flock, and out of thy threshing-floor, and out of thy winepress; as Jehovah thy God hath blessed thee thou shalt give unto him.
15 Cofia mai caethwas fuost tithau yng ngwlad yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy waredu. Dyna pam yr wyf yn gorchymyn hyn iti heddiw.
15And thou shalt remember that thou wast a bondman in the land of Egypt, and Jehovah thy God redeemed thee: therefore I command thee this thing to-day.
16 Ond os dywed dy was wrthyt na fyn ymadael � thi am ei fod yn hoff ohonot ti a'th deulu, a'i bod yn dda arno gyda thi,
16And it shall be, if he say unto thee, I will not go out from thee; because he loveth thee and thy house, because he is well with thee;
17 yna cymer fynawyd a'i wthio trwy ei glust i'r drws, ac yna bydd yn gaethwas iti am byth; gwna'r un modd gyda'th gaethferch.
17then thou shalt take an awl, and thrust it through his ear unto the door, and he shall be thy servant for ever. And also unto thy maid-servant thou shalt do likewise.
18 Pan fyddi'n rhyddhau caethwas, paid � gofidio, oherwydd yr oedd ei wasanaeth iti dros chwe blynedd yn werth dwywaith t�l gwas cyflog. A bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y cwbl a wnei.
18It shall not seem hard unto thee, when thou lettest him go free from thee; for to the double of the hire of a hireling hath he served thee six years: and Jehovah thy God will bless thee in all that thou doest.
19 Yr wyt i gysegru i'r ARGLWYDD dy Dduw bob gwryw cyntafanedig a enir i'th wartheg a'th ddefaid. Nid wyt i lafurio � chyntafanedig dy wartheg, na chneifio cyntafanedig dy ddefaid.
19All the firstling males that are born of thy herd and of thy flock thou shalt sanctify unto Jehovah thy God: thou shalt do no work with the firstling of thy herd, nor shear the firstling of thy flock.
20 Yr wyt ti a'th deulu i'w bwyta'n flynyddol gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis.
20Thou shalt eat it before Jehovah thy God year by year in the place which Jehovah shall choose, thou and thy household.
21 Os bydd nam arno, ac yntau'n gloff neu'n ddall, neu � rhyw nam difrifol arall arno, paid �'i aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw.
21And if it have any blemish, [as if it be] lame or blind, any ill blemish whatsoever, thou shalt not sacrifice it unto Jehovah thy God.
22 Caiff yr aflan a'r gl�n fel ei gilydd ei fwyta yn dy drefi, fel petai'n iwrch neu garw.
22Thou shalt eat it within thy gates: the unclean and the clean [shall eat it] alike, as the gazelle, and as the hart.
23 Er hynny, nid ydych i fwyta'r gwaed, ond ei dywallt fel du373?r ar y ddaear.
23Only thou shalt not eat the blood thereof; thou shalt pour it out upon the ground as water.