Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

13

1 Yr oracl am Fabilon; yr hyn a welodd Eseia fab Amos.
2 Dyrchafwch faner ar fynydd moel, codwch lef tuag atynt; amneidiwch �'ch dwylo iddynt ddod i mewn i byrth y pendefigion.
3 Gorchmynnais i'r rhai a gysegrais; ie, gelwais ar fy ngwu375?r cedyrn i weithredu fy nicter, y rhai sy'n falch o'm gorchest.
4 Clywch, su373?n tyrfa ar y mynyddoedd, fel pobloedd heb rifedi! Clywch, dwndwr teyrnasoedd, fel cenhedloedd wedi eu crynhoi. ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnull y llu ar gyfer brwydr.
5 D�nt o wlad bell, o eithaf y nefoedd � offer llid yr ARGLWYDD � i ddifa'r holl dir.
6 Udwch, y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
7 Am hynny fe laesa'r holl ddwylo, a bydd pob calon yn toddi gan fraw.
8 Bydd poen ac artaith yn cydio ynddynt; byddant mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor. Edrychant yn syn ar ei gilydd, a'u hwynebau'n gwrido fel fflam.
9 Wele, daw dydd yr ARGLWYDD, yn greulon gan ddigofaint a llid, i wneud y ddaear yn ddiffaith a dileu ei phechaduriaid ohoni.
10 Bydd s�r y nefoedd a'u planedau yn atal eu goleuni; tywylla'r haul ar ei godiad, ac ni oleua'r lloer �'i llewyrch.
11 Cosbaf y byd am ei bechod, a'r drygionus am eu camwedd; gwnaf i falchder y beiddgar beidio, gostyngaf ymffrost y trahaus.
12 Gwnaf bobl yn brinnach nag aur coeth, a'r ddynoliaeth nag aur Offir.
13 Am hynny fe gryna'r nefoedd ac ysgydwir y ddaear o'i lle, oherwydd digofaint ARGLWYDD y Lluoedd yn nydd angerdd ei lid.
14 Fel ewig wedi ei tharfu, fel praidd heb neb i'w corlannu, bydd pawb yn troi at ei dylwyth, a phob un yn ffoi i'w gynefin.
15 Trywenir pob un a geir, a lleddir �'r cleddyf bob un a ddelir.
16 Dryllir eu plant o flaen eu llygaid, ysbeilir eu tai, treisir eu gwragedd.
17 Wele, yr wyf yn cyffroi yn eu herbyn y Mediaid, rhai nad yw arian yn cyfrif ganddynt, ac na roddant bris ar aur.
18 Dryllia'u bw�u y gwu375?r ifanc; ni thosturiant wrth ffrwyth y groth, nac edrych yn drugarog ar blant.
19 A bydd Babilon, yr odidocaf o'r teyrnasoedd, a gogoniant ysblennydd y Caldeaid, fel Sodom a Gomorra wedi i Dduw eu dinistrio.
20 Ni chyfanheddir hi o gwbl, na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau; ni phabella'r Arab o'i mewn, ac ni chorlanna'r bugail ynddi.
21 Ond bydd anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yno; llenwir hi gan ffeuau i greaduriaid swnllyd; bydd yr estrys yn trigo yno, a bychod yn llamu yno;
22 bydd y siacal yn cyfarth yn ei thyrau, a'r hiena yn ei phlastai hyfryd. Y mae ei hamser wrth law, ac nid estynnir ei dyddiau.