1 Tosturia'r ARGLWYDD wrth Jacob, ac fe ddewis Israel drachefn iddo'i hun. Fe'u gesyd yn eu tir eu hunain, a daw estroniaid i ymgysylltu � hwy ac i lynu wrth deulu Jacob.
2 Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.
3 Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi,
4 fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon: O fel y darfu'r gorthrymwr ac y peidiodd ei orffwylltra!
5 Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiol a gwialen y llywiawdwyr,
6 a fu'n taro'r bobloedd mewn dig, heb atal eu hergyd, ac yn sathru'r bobloedd mewn llid a'u herlid yn ddi-baid.
7 Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch; ac y maent yn gorfoleddu ar g�n.
8 Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn, a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud, "Er pan fwriwyd di ar dy orwedd ni chododd neb i'n torri ni i lawr."
9 Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddi i'th dderbyn pan gyrhaeddi; bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod, pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear; gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd, sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.
10 Bydd pob un ohonynt yn ymateb, ac yn dy gyfarch fel hyn: "Aethost tithau'n wan fel ninnau; yr wyt yr un ffunud � ni."
11 Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol, yn su373?n miwsig dy nablau; oddi tanat fe daenir y llyngyr, a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.
12 O fel y syrthiaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.
13 Dywedaist ynot dy hun, "Dringaf fry i'r nefoedd, dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r s�r uchaf; eisteddaf ar y mynydd cynnull ym mhellterau'r Gogledd.
14 Dringaf yn uwch na'r cymylau; fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf."
15 Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd, i lawr i ddyfnderau'r pwll.
16 Bydd y rhai a'th w�l yn synnu a phendroni drosot, a dweud, "Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
17 Ai hwn a droes y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd heb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?"
18 Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd, pob un yn ei le ei hun;
19 ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd, fel erthyl a ffieiddir; fe'th orchuddiwyd � chelanedd wedi eu trywanu � chleddyf, ac yn disgyn i waelodion y pwll, fel cyrff wedi eu sathru dan draed.
20 Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy, oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl. Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;
21 darparwch laddfa i'w blant, oherwydd drygioni eu hynafiaid, rhag iddynt godi ac etifeddu'r tir a gorchuddio'r byd � dinasoedd.
22 "Codaf yn eu herbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "a dinistrio enw Babilon a'r gweddill sydd ynddi, yn blant a phlant i blant," medd yr ARGLWYDD.
23 "A gwnaf hi'n gynefin i aderyn y bwn, yn gors ddiffaith, ac ysgubaf hi ag ysgubell distryw," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
24 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd, "Fel y cynlluniais y bydd, ac fel y bwriedais y digwydd;
25 drylliaf Asyria yn fy nhir, mathraf hi ar fy mynyddoedd; symudir ei hiau oddi arnat a'i phwn oddi ar dy gefn.
26 Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear, a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.
27 Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd; pwy a'i diddyma? Ei law ef a estynnwyd; pwy a'i try'n �l?"
28 Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:
29 Paid � llawenychu, Philistia gyfan, am dorri'r wialen a'th drawodd; oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber, a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.
30 Caiff y tlawd bori yn fy nolydd a'r anghenus orwedd yn dawel; ond lladdaf dy wreiddyn � newyn, a dinistriaf y rhai sy'n weddill ohonot.
31 Uda, borth! Gwaedda, ddinas! Y mae Philistia gyfan mewn gwewyr. Y mae mwg yn dod o'r gogledd, ac nid oes neb yn ei rengoedd yn llusgo.
32 Beth yw'r ateb i gennad y bobl? "Gwnaeth yr ARGLWYDD Seion yn ddiogel, ac ynddi y caiff trueiniaid ei bobl loches."