Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

25

1 O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti; mawrygaf di a chlodforaf dy enw am iti gyflawni bwriad rhyfeddol, sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
2 Gwnaethost ddinas yn bentwr, a thref gaerog yn garnedd; ysgubwyd ymaith y plasty o'r ddinas, ac nis adeiledir byth eto.
3 Am hynny y mae pobl nerthol yn dy ogoneddu, a dinasoedd cenhedloedd trahaus yn dy barchu.
4 Canys buost yn noddfa i'r tlawd, yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder, yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres. Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,
5 neu fel gwres ar dir sych. 'Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid; fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl, felly y bydd c�n y trahaus yn distewi.
6 Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n l�n.
7 Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudd a daenwyd dros yr holl bobloedd, llen galar sy'n cuddio pob cenedl;
8 llyncir angau am byth, a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb, ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear. Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
9 Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, "Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu; dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth."
10 Oherwydd bydd llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys dros y mynydd hwn, ond fe sethrir Moab dan ei draed fel sathru gwellt mewn tomen;
11 bydd Moab yn estyn ei dwylo allan yn ei chanol, fel nofiwr yn eu hestyn i nofio, ond fe suddir ei balchder gyda phob symudiad dwylo.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn bwrw'r amddiffynfa i lawr, ac yn gwneud eich muriau yn gydwastad �'r pridd, a'u taflu i lawr i'r llwch.