Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

26

1 Yn y dydd hwnnw cenir y g�n hon yng ngwlad Jwda: Y mae gennym ddinas gadarn; y mae'n gosod iachawdwriaeth yn furiau a chaerau iddi.
2 Agorwch y pyrth i'r genedl gyfiawn ddod i mewn, y genedl sy'n cadw'r ffydd.
3 Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd �'i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot.
4 Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd, canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.
5 Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr uchelder a'r ddinas ddyrchafedig; fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad �'r llawr, a'i bwrw i'r llwch;
6 fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus, a than sang y rhai tlawd.
7 Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn; gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn;
8 edrychwn ninnau atat ti, O ARGLWYDD, am lwybr dy farnedigaethau; d'enw di a'th goffa di yw ein dyhead dwfn.
9 Deisyfaf di �'m holl galon drwy'r nos, a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr; oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad, bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.
10 Er gwneud cymwynas �'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder; fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn, ac ni w�l fawredd yr ARGLWYDD.
11 O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant; gad iddynt weld dy s�l dros dy bobl, a chywilyddio; a bydded i d�n d'elyniaeth eu hysu.
12 ARGLWYDD, ti sy'n trefnu heddwch i ni, oherwydd ti a wnaeth ein holl weithredoedd trosom.
13 O ARGLWYDD ein Duw, er i arglwyddi eraill reoli trosom, dy enw di yn unig a gydnabyddwn.
14 Y maent yn feirw, heb fedru byw, yn gysgodion, heb fedru codi mwyach. I hynny y cosbaist hwy a'u difetha, a diddymu pob atgof amdanynt.
15 Ond cynyddaist y genedl, O ARGLWYDD, cynyddaist y genedl, a'th ogoneddu dy hun; estynnaist holl derfynau'r wlad.
16 Mewn adfyd, O ARGLWYDD, 'roeddym yn dy geisio, ac yn tywallt allan ein gweddi pan oeddet yn ein ceryddu.
17 Fel y bydd gwraig ar fin esgor yn gwingo a gweiddi gan boen, felly y'n ceir ni yn dy u373?ydd, O ARGLWYDD;
18 yr oeddem yn feichiog, ac fel pe baem ar fin esgor, a heb eni dim ond gwynt. Ni chawsom waredigaeth i'r wlad, nac epilio ar rai i drigiannu'r byd.
19 Ond bydd dy feirw di yn byw, a'u cyrff marw yn codi. Chwi sy'n trigo yn y llwch, deffrowch a chanwch; oherwydd y mae dy wlith fel gwlith goleuni, a thithau'n peri iddo ddisgyn ar fro'r cysgodion.
20 Dewch, fy mhobl, ewch i'ch ystafell, caewch y drws, ac ymguddiwch am ennyd, nes i'r llid gilio.
21 Canys wele, y mae'r ARGLWYDD yn dod allan o'i fangre i gosbi trigolion y ddaear am eu drygioni; yna fe ddatgela'r ddaear y gwaed a dywalltwyd, ac ni chuddia ei lladdedigion byth mwy.