1 "Gwae chwi, blant gwrthryfelgar," medd yr ARGLWYDD, "sy'n gweithio cynllun na ddaeth oddi wrthyf fi, ac yn dyfeisio planiau nad ysbrydolwyd gennyf fi, ac yn pentyrru pechod ar bechod.
2 �nt i lawr i'r Aifft, heb ofyn fy marn, i geisio help gan Pharo, a lloches yng nghysgod yr Aifft.
3 Ond bydd help Pharo yn dwyn gwarth arnoch, a lloches yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.
4 Canys, er bod ei swyddogion yn Soan a'i genhadau mor bell � Hanes,
5 fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd, nad ydynt yn help na lles�d, ond yn warth a gwaradwydd."
6 Oracl am anifeiliaid y Negef: Trwy wlad caledi a loes, gwlad y llewes a'r llew, y wiber a'r sarff hedegog, fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnod a'u trysorau ar grwmp camelod, at bobl ddi�fudd.
7 Canys y mae help yr Aifft yn ofer a gwag; am hynny galwaf hi, Rahab segur.
8 Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech, a nodi hyn mewn llyfr, iddo fod mewn dyddiau a ddaw yn dystiolaeth barhaol.
9 Pobl wrthryfelgar yw'r rhain, plant celwyddog, plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD,
10 ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, "Peidiwch ag edrych", ac wrth y proffwydi, "Peidiwch � phroffwydo i ni bethau uniawn, ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus.
11 Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn, parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni."
12 Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn: "Am i chwi wrthod y gair hwn ac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt,
13 bydd y drygioni hwn yn eich golwg fel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd, ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;
14 bydd yn torri fel llestr crochenydd, yn chwilfriw ulw m�n; ni cheir ymysg ei ddarnau gragen i godi t�n oddi ar aelwyd, neu i godi du373?r o ffos."
15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: "Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud,
16 'Nid felly, fe ffown ni ar feirch.' Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi. 'Fe farchogwn ni feirch cyflym,' meddwch. Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym.
17 Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un; ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadael fel lluman ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn."
18 Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.
19 Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth su373?n dy gri; pan glyw di, fe'th etyb.
20 Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a du373?r cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld.
21 Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch �'ch clustiau lais o'ch �l yn dweud, "Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi."
22 Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, "Bawiach."
23 Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,
24 a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo � phorthiant blasus, wedi ei nithio � fforch a rhaw.
25 Ar bob mynydd uchel a bryn dyrchafedig bydd afonydd a ffrydiau o ddu373?r, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrth y tyrau.
26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul yn seithwaith mwy, fel llewyrch saith diwrnod, ar y dydd pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briw ei bobl, ac yn iach�u'r archoll ar �l eu taro.
27 Wele, daw enw'r ARGLWYDD o bell; bydd ei ddigofaint yn llosgi a'i gynddaredd yn llym, ei wefusau'n llawn o ddicter a'i dafod fel t�n ysol,
28 ei anadl fel llifeiriant yn rhuthro ac yn cyrraedd at y gwddf; bydd yn hidlo'r cenhedloedd � gogr dinistriol, ac yn gosod ffrwyn ym mhennau'r bobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.
29 Ond i chwi fe fydd c�n, fel ar noson o u373?yl sanctaidd; a bydd eich calon yn llawen, fel llawenydd rhai'n dawnsio i su373?n ffliwt wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, at Graig Israel.
30 Bydd yr ARGLWYDD yn peri clywed ei lais mawreddog, ac yn dangos ei fraich yn taro mewn dicter llidiog a fflamau t�n ysol, mewn torgwmwl a thymestl a chenllysg.
31 Bydd Asyria yn brawychu rhag su373?n yr ARGLWYDD, pan fydd ef yn taro �'i wialen.
32 Wrth iddo'i chosbi, bydd pob curiad o'i wialen, pan fydd yr ARGLWYDD yn ei gosod arni, yn cadw'r amser i dympanau a thelynau, yn y rhyfeloedd pan gyfyd ei fraich i ymladd yn eu herbyn.
33 Oherwydd darparwyd Toffet erstalwm, a'i baratoi i'r brenin, a'i wneud yn ddwfn ac yn eang, a'i bwll t�n yn llawn o goed, ac anadl yr ARGLWYDD fel ffrwd o frwmstan yn cynnau'r t�n.