1 Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am gymorth, ac yn ymddiried mewn meirch, a'u hyder mewn rhifedi cerbydau a chryfder gwu375?r meirch, ond sydd heb edrych at Sanct Israel, na cheisio'r ARGLWYDD.
2 Ond y mae ef yn fedrus i ddwyn dinistr, ac nid yw'n galw ei air yn �l; fe gyfyd yn erbyn tu375?'r rhai drygionus ac yn erbyn swcwr y rhai ofer.
3 Meidrolion yw'r Eifftiaid, nid Duw; a chnawd yw eu meirch, nid ysbryd; pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law, fe fagla'r cynorthwywr ac fe syrthia'r sawl a gynorthwyir, a darfyddant oll gyda'i gilydd.
4 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Fel y rhua llew neu lew ifanc uwchben ei ysglyfaeth � ac er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn nid yw'n dychryn rhag eu gwaedd, nac yn ofni rhag eu twrf � felly y daw ARGLWYDD y Lluoedd i lawr i frwydro dros Fynydd Seion a'i bryn.
5 Fel yr adar yn hofran uwchben, felly y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn Jerwsalem; bydd yn amddiffyn a gwaredu, yn arbed ac achub."
6 Dychwelwch at yr un a adawsoch yn llwyr, blant Israel.
7 Oherwydd yn y dydd hwnnw bydd pob un ohonoch yn dirmygu'r eilun arian a'r eilun aur a wnaeth eich dwylo mewn pechod.
8 "Syrth Asyria drwy gleddyf, ond nid un dynol, a chleddyf nad yw'n eiddo meidrolyn fydd yn ei ddifa; os gallant ffoi rhag y cleddyf, bydd y gwu375?r ifainc yn gwneud llafur gorfod;
9 bydd ei gadernid yn pallu gan fraw, a'i swyddogion yn rhy ofnus i ffoi," medd yr ARGLWYDD, sydd �'i d�n yn llosgi yn Seion a'i ffwrn yn Jerwsalem.