Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

53

1 Pwy a gredai'r hyn a glywsom? I bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?
2 Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn, ac fel gwreiddyn mewn tir sych; nid oedd na phryd na thegwch iddo, na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.
3 'Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill, yn u373?r clwyfedig, cyfarwydd � dolur; yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho, yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.
4 Eto, ein dolur ni a gymerodd, a'n gwaeledd ni a ddygodd � a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.
5 Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; 'roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iach�d.
6 'Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd.
7 Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng, ond nid agorai ei enau; arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa, ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr, felly nid agorai yntau ei enau.
8 Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu � pwy oedd yn malio am ei dynged? Fe'i torrwyd o dir y rhai byw, a'i daro am drosedd fy mhobl.
9 Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus, a beddrod gyda'r troseddwyr, er na wnaethai niwed i neb ac nad oedd twyll yn ei enau.
10 Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio a gwneud iddo ddioddef. Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod, fe w�l ei had, fe estyn ei ddyddiau, ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.
11 Wedi helbulon ei fywyd fe w�l oleuni, a chael ei fodloni yn ei wybodaeth; bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer, ac yn dwyn eu camweddau.
12 Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.