Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

7

1 Yn ystod dyddiau Ahas fab Jotham, fab Usseia, brenin Jwda, daeth Resin brenin Syria, a Pheca fab Remaleia, brenin Israel, i ryfela yn erbyn Jerwsalem, ond methu ei gorchfygu.
2 Yr oedd tu375? Dafydd wedi ei rybuddio bod Syria mewn cytundeb ag Effraim; ac yr oedd ei galon ef a'i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, "Dos allan, a'th fab Sear�jasub gyda thi, i gyfarfod Ahas wrth derfyn pistyll y llyn uchaf ar ffordd Maes y Pannwr,
4 a dywed wrtho, 'Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid � digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid.
5 Oherwydd i Syria ac Effraim a mab Remaleia wneud cynllwyn drwg yn d'erbyn, a dweud,
6 "Gadewch inni ymosod ar Jwda, a'i dychryn, a'i throi o'n plaid, a gosod brenin arni, sef mab Tabeal,"
7 dyma y mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud: Ni saif hyn, ac ni ddigwydd.
8 Pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin. Cyn diwedd pum mlynedd a thrigain bydd Effraim wedi ei dryllio a pheidio � bod yn bobl.
9 Pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni fyddwch yn sefydlog, ni'ch sefydlogir.'"
10 Llefarodd yr ARGLWYDD eto wrth Ahas, a dweud,
11 "Gofyn am arwydd gan yr ARGLWYDD dy Dduw, arwydd o ddyfnder Sheol neu o uchder nefoedd."
12 Ond atebodd Ahas, "Ni ofynnaf, ac nid wyf am osod yr ARGLWYDD ar brawf."
13 Dywedodd yntau, "Gwrandewch yn awr, tu375? Dafydd. Ai peth bach yn eich golwg yw trethu amynedd pobl, a'ch bod am drethu amynedd fy Nuw hefyd?
14 Am hynny, y mae'r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel.
15 Bydd yn bwyta menyn a m�l pan ddaw i wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da.
16 Cyn i'r plentyn wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da, fe ddifrodir tir y ddau frenin yr wyt yn eu hofni.
17 Bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnat ti ac ar dy bobl ac ar du375? dy dad ddyddiau na fu eu tebyg er pan dorrodd Effraim oddi wrth Jwda � brenin Asyria."
18 Yn y dydd hwnnw chwibana'r ARGLWYDD am y gwybedyn o afonydd pell yr Aifft, ac am y wenynen o wlad Asyria;
19 fe dd�nt ac ymsefydlu i gyd yn yr hafnau serth ac yn agennau'r creigiau, ar yr holl goed drain ac ar yr holl borfeydd.
20 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD, ag ellyn a logwyd y tu hwnt i'r Ewffrates, brenin Asyria, yn eillio'r holl ben a blew'r traed, a thorri ymaith y farf hefyd.
21 Yn y dydd hwnnw bydd rhywun yn cadw'n fyw heffer a dwy ddafad;
22 a chaiff ganddynt ddigon o laeth i fedru bwyta menyn; canys bwyteir menyn a m�l gan bob un a adewir yn y wlad.
23 Yn y dydd hwnnw bydd pob man lle bu mil o winwydd, gwerth mil o ddarnau arian, yn fieri ac yn ddrain.
24 Daw dynion yno � saethau a bw�u, canys bydd mieri a drain ym mhobman.
25 Ni ddaw neb i'r llechweddau lle bu'r gaib unwaith yn trin, rhag ofn y mieri a'r drain; byddant yn lle i ollwng gwartheg iddo, ac yn gynefin defaid.