Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

8

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cymer sgr�l fawr ac ysgrifenna arni mewn llythrennau eglur, 'I Maher-shalal�has-bas';
2 a galw yn dystion cywir i mi Ureia yr offeiriad a Sechareia fab Jeberecheia."
3 Yna euthum at y broffwydes; beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Galw ei enw Maher�shalal-has-bas,
4 oherwydd cyn i'r bachgen fedru galw, 'Fy nhad' neu 'Fy mam', bydd golud Damascus ac ysbail Samaria yn cael eu dwyn ymaith o flaen brenin Asyria."
5 Llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf drachefn,
6 "Oherwydd i'r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, sy'n llifo'n dawel, a chrynu gan ofn o flaen Resin a mab Remaleia,
7 am hynny, bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnynt ddyfroedd yr Ewffrates, yn gryf ac yn fawr, brenin Asyria a'i holl ogoniant. Fe lifa dros ei holl sianelau, a thorri dros ei holl gamlesydd;
8 fe ysguba trwy Jwda fel dilyw, a gorlifo nes cyrraedd at y gwddf. Bydd cysgod ei adenydd yn llenwi holl led dy dir, O Immanuel."
9 Ystyriwch, bobloedd, fe'ch dryllir; gwrandewch, chwi bellafion byd; ymwregyswch, ac fe'ch dryllir; ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.
10 Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir; dywedwch air, ac ni saif, Oherwydd y mae Duw gyda ni.
11 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:
12 "Peidiwch � dweud 'Cynllwyn!' am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn; a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni, nac arswydo rhagddo.
13 Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd; ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.
14 Bydd ef yn fagl, ac i ddau du375? Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr; bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.
15 A bydd llawer yn baglu drostynt; syrthiant, ac fe'u dryllir; c�nt eu baglu a'u dal."
16 Rhwyma'r dystiolaeth, selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.
17 Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD, sy'n cuddio'i wyneb rhag tu375? Jacob; arhosaf yn eiddgar amdano.
18 Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion.
19 A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, "Ewch i ymofyn �'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd", onid yw'r bobl yn ymh�l �'r duwiau, ac yn ymofyn �'r meirw dros y byw
20 am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo.
21 Bydd yn tramwy trwy'r wlad mewn caledi a newyn; a phan newyna bydd yn chwerwi, ac yn melltithio ei frenin a'i Dduw.
22 A phan fydd yn troi ei olwg tuag i fyny neu'n edrych tua'r ddaear, wele drallod a thywyllwch, caddug cyfyngder; bydd wedi ei fwrw i dywyllwch du.