1 Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam�drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar �l hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y m�r, dros yr Iorddonen.
2 Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau.
3 Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenh�nt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.
4 Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt, a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd, a'r ffon oedd gan eu gyrrwr, fel yn nydd Midian.
5 Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes, a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed, fe'u llosgir fel tanwydd.
6 Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, "Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon".
7 Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn � barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd s�l ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
8 Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob, ac fe ddisgyn ar Israel.
9 Gostyngir yr holl bobl � Effraim a thrigolion Samaria � sy'n dweud mewn balchder a thraha,
10 "Syrthiodd y priddfeini, ond fe adeiladwn ni � cherrig nadd; torrwyd y prennau sycamor, ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle."
11 Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn; y mae'n cyffroi eu gelynion.
12 Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewin yn ysu Israel a'u safnau'n agored. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
13 Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd, na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd;
14 am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen a'r gynffon, y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd;
15 yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen, y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon.
16 Y rhai sy'n arwain y bobl hyn sy'n peri iddynt gyfeiliorni; a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu.
17 Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwu375?r ifainc, ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon. Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
18 Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel t�n, yn ysu'r mieri a'r drain, yn cynnau yn nrysni'r coed, ac yn codi'n golofnau o fwg.
19 Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoedd y mae'r wlad ar d�n; y mae'r bobl fel tanwydd, ac nid arbedant ei gilydd.
20 Cipia un o'r dde, ond fe newyna; bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir. Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant �
21 Manasse Effraim, ac Effraim Manasse, ac ill dau yn erbyn Jwda. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.