1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Ysgrifenna'r holl eiriau a leferais wrthyt mewn llyfr,
3 oherwydd y mae'r dyddiau yn dod,' medd yr ARGLWYDD, 'yr adferaf lwyddiant i'm pobl Israel a Jwda,' medd yr ARGLWYDD, 'a'u dychwelyd i'r wlad a roddais i'w hynafiaid; ac etifeddant hi.'"
4 Dyma'r geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel ac am Jwda:
5 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Su373?n dychryn a glywsom; braw, ac nid heddwch.
6 Gofynnwch yn awr, ac ystyriwch. A all gwryw esgor? Pam, ynteu, y gwelaf bob gu373?r �'i ddwylo am ei lwynau fel gwraig wrth esgor, a phob un yn newid gwedd ac yn gwelwi?
7 Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg; dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono.
8 Yn y dydd hwnnw,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy.
9 Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt.
10 "'A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,' medd yr ARGLWYDD, 'paid ag arswydo, Israel, canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
11 Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,' medd yr ARGLWYDD; 'gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith, ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Ond ceryddaf di yn �l dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.'"
12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;
13 nid oes neb i ddadlau dy achos; nid oes na moddion nac iach�d i'th ddolur.
14 Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio; trewais di � dyrnod gelyn, � chosb greulon, oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.
15 Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy. Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau yr wyf wedi gwneud hyn i ti.
16 "Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe � pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed. Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail.
17 Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iach�f di o'th friwiau," medd yr ARGLWYDD, "am iddynt dy alw yn ysgymun, Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani."
18 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob, yn tosturio wrth ei anheddau. Cyfodir y ddinas ar ei charnedd, a saif y llys yn ei le.
19 Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu, amlhaf hwy, ac ni leih�nt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.
20 Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngu373?ydd; cosbaf bob un a'u gorthryma.
21 Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg; paraf iddo nes�u, ac fe ddaw ataf; canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?" medd yr ARGLWYDD.
22 "A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi."
23 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, corwynt yn chwyrl�o, yn troi uwchben y drygionus.
24 Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni; yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.