Welsh

Breton: Gospels

Jeremiah

31

1 "Yr adeg honno," medd yr ARGLWYDD, "byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi."
2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cafodd y bobl a osg�dd y cleddyf ffafr yn yr anialwch; tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.
3 Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo. Cerais di � chariad diderfyn; am hynny parheais yn ffyddlon iti.
4 Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu; cei ymdrwsio eto �'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
5 Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria, a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.
6 Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw, 'Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.'"
7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch g�n i'r bennaf o'r cenhedloedd; cyhoeddwch, molwch a dywedwch, 'Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.'
8 "Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd; gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd �'r hon sy'n esgor; yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.
9 D�nt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy � thosturi, tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroedd ar ffordd union na faglant ynddi. Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.
10 "Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd; cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud, 'Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu; bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.'
11 Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, a'i achub o afael un trech nag ef.
12 D�nt a chanu yn uchelder Seion; ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD, oherwydd yr u375?d a'r gwin a'r olew, ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg. A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.
13 Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns, a'r gwu375?r ifainc a'r hen hefyd ynghyd; trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy; gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.
14 Diwallaf yr offeiriaid � braster, a digonir fy mhobl �'m daioni," medd yr ARGLWYDD.
15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Clywir llef yn Rama, galarnad ac wylofain, Rachel yn wylo am ei phlant, yn gwrthod ei chysuro am ei phlant, oherwydd nad ydynt mwy."
16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau, oherwydd y mae elw i'th lafur," medd yr ARGLWYDD; "dychwelant o wlad y gelyn.
17 Y mae gobaith iti yn y diwedd," medd yr ARGLWYDD; "fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.
18 Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno, 'Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu; adfer fi, imi ddychwelyd, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.
19 Wedi imi droi, bu edifar gennyf; wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun; cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo, gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.'
20 "A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi? Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd. Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio � thrugarhau wrtho," medd yr ARGLWYDD.
21 "Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst, astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist; dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.
22 Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal? Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear, benyw yn amddiffyn gu373?r."
23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant: 'Bendithied yr ARGLWYDD di, gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.'
24 Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd, yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;
25 paraf wlychu llwnc y sychedig, a digoni pob un sydd yn nychu."
26 Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.
27 "Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "yr heuaf du375? Israel a thu375? Jwda � had dyn ac � had anifail.
28 Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu," medd yr ARGLWYDD.
29 "Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach, 'Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod.'
30 Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31 "Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd � thu375? Israel ac � thu375? Jwda.
32 Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum �'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt," medd yr ARGLWYDD.
33 "Ond dyma'r cyfamod a wnaf � thu375? Israel ar �l y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD; "rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.
34 Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, 'Adnebydd yr ARGLWYDD'; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy."
35 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd, a threfn y lleuad a'r s�r yn oleuni'r nos, sy'n cynhyrfu'r m�r nes bod ei donnau'n rhuo (ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):
36 "Os cilia'r drefn hon o'm gu373?ydd," medd yr ARGLWYDD, "yna bydd had Israel yn peidio hyd byth � bod yn genedl ger fy mron."
37 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Pe gellid mesur y nefoedd fry, a chwilio sylfeini'r ddaear isod, gwrthodwn innau hefyd holl had Israel am yr holl bethau a wnaethant," medd yr ARGLWYDD.
38 "Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o du373?r Hananel hyd Borth y Gongl,
39 a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn � hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath.
40 A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth."