Welsh

Breton: Gospels

Proverbs

13

1 Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad, ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd.
2 Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un � daioni, ond awchu am drais y mae twyllwyr.
3 Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd, ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.
4 Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim, ond y mae'r diwyd yn ffynnu.
5 Y mae'r cyfiawn yn cas�u twyll, ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus.
6 Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir, ond drygioni yn dymchwel y pechadur.
7 Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo; ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.
8 Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth, ond ni chlyw'r tlawd fygythion.
9 Disgleiria goleuni'r cyfiawn, ond diffydd lamp y drygionus.
10 Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio, ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.
11 Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech, ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.
12 Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon, ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
13 Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor, ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.
14 Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth.
15 Y mae deall da yn ennill ffafr, ond garw yw ffordd y twyllwyr.
16 Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus, ond y mae'r ff�l yn amlygu ffolineb.
17 Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr, ond cennad cywir yn dwyn lles.
18 Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth, ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd.
19 Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas, ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg.
20 Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb, ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.
21 Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid, ond daioni yw gwobr y cyfiawn.
22 Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant, ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.
23 Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion, ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.
24 Cas�u ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.
25 Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon, ond gwag fydd bol y drygionus.