1 Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thu375?, ond y ff�l yn ei dynnu i lawr �'i dwylo'i hun.
2 Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD, ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu.
3 Yng ngeiriau'r ff�l y mae gwialen i'w gefn, ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn.
4 Heb ychen y mae'r preseb yn wag, ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn.
5 Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd, ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau.
6 Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael, ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus.
7 Cilia oddi wrth yr un ff�l, oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo.
8 Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd, ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.
9 Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd, ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.
10 Gu373?yr y galon am ei chwerwder ei hun, ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.
11 Dinistrir tu375?'r drygionus, ond ffynna pabell yr uniawn.
12 Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.
13 Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus, a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.
14 Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun, a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.
15 Y mae'r gwirion yn credu pob gair, ond y mae'r call yn ystyried pob cam.
16 Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae'r ff�l yn ddiofal a gorhyderus.
17 Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ff�l, a chaseir yr un dichellgar.
18 Ffolineb yw rhan y rhai gwirion, ond gwybodaeth yw coron y rhai call.
19 Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda, a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.
20 Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod, ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.
21 Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu, ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
22 Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni, ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?
23 Ym mhob llafur y mae elw, ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.
24 Eu craffter yw coron y doeth, ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.
25 Y mae tyst geirwir yn achub bywydau, ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.
26 Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn, a bydd yn noddfa i'w blant.
27 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth.
28 Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin; ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.
29 Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar, ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.
30 Meddwl iach yw iechyd y corff, ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.
31 Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.
32 Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun, ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.
33 Trig doethineb ym meddwl y deallus, ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.
34 Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl, ond pechod yn warth ar bobloedd.
35 Rhydd brenin ffafr i was deallus, ond digia wrth yr un a'i sarha.