Welsh

Breton: Gospels

Proverbs

16

1 Pobl biau trefnu eu meddyliau, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod.
2 Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion.
3 Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD, a chyflawnir dy gynlluniau.
4 Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas, hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd.
5 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch; y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb.
6 Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd, a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg.
7 Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun, gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.
8 Gwell ychydig gyda chyfiawnder nag enillion mawr heb farn.
9 Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd, ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre.
10 Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin; nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.
11 Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn; a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.
12 Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg, oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.
13 Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn, a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.
14 Y mae llid brenin yn gennad angau, ond fe'i dofir gan yr un doeth.
15 Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd, ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.
16 Gwell nag aur yw ennill doethineb, a gwell dewis deall nag arian.
17 Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni, a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd.
18 Daw balchder o flaen dinistr, ac ymffrost o flaen cwymp.
19 Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenus na rhannu ysbail gyda'r balch.
20 Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo, a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.
21 Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus, a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg.
22 Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog, ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid.
23 Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus, ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.
24 Y mae geiriau teg fel diliau m�l, yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.
25 Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth.
26 Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio, a'i enau sy'n ei annog ymlaen.
27 Y mae dihiryn yn cynllunio drwg; y mae fel t�n poeth ar ei wefusau.
28 Y mae rhywun croes yn creu cynnen, a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.
29 Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill, ac yn ei arwain ar ffordd wael.
30 Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster, a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni.
31 Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd; fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn.
32 Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr, a rheoli tymer na chipio dinas.
33 Er bwrw'r coelbren i'r arffed, oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.