Welsh

Breton: Gospels

Proverbs

17

1 Gwell yw tamaid sych, a llonyddwch gydag ef, na thu375? yn llawn o wleddoedd ynghyd � chynnen.
2 Y mae gwas deallus yn feistr ar fab gwarthus, ac yn rhannu'r etifeddiaeth gyda'r brodyr.
3 Y mae tawddlestr i arian a ffwrnais i aur, ond yr ARGLWYDD sy'n profi calonnau.
4 Y mae'r drwgweithredwr yn gwrando ar eiriau anwir, a'r celwyddog yn rhoi sylw i dafod maleisus.
5 Y mae'r un sy'n gwatwar y tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ac ni chaiff y sawl sy'n ymhyfrydu mewn trychineb osgoi cosb.
6 Coron yr hen yw plant eu plant, a balchder plant yw eu rhieni.
7 Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn, nac ychwaith eiriau celwyddog i bendefig.
8 Carreg hud yw llwgrwobr i'r sawl a'i defnyddia; fe lwydda ple bynnag y try.
9 Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch, ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.
10 Y mae cerydd yn peri mwy o loes i'r deallus na chan cernod i ynfytyn.
11 Ar wrthryfela y mae bryd y drygionus, ond fe anfonir cennad creulon yn ei erbyn.
12 Gwell yw cyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon na chyfarfod ag ynfytyn yn ei ffolineb.
13 Os bydd i neb dalu drwg am dda, nid ymedy dinistr �'i du375?.
14 Y mae dechrau cweryl fel diferiad du373?r; ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.
15 Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn � y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
16 Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn? Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?
17 Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser; ar gyfer adfyd y genir brawd.
18 Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl, ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.
19 Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen, a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.
20 Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni, a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.
21 Y mae'r un sy'n cenhedlu ffu373?l yn wynebu gofid, ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.
22 Y mae calon lawen yn rhoi iechyd, ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn.
23 Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwes i wyrdroi llwybrau barn.
24 Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb, ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn.
25 Y mae mab ynfyd yn flinder i'w dad, ac yn achos chwerwder i'w fam.
26 Yn wir nid da cosbi'r cyfiawn, ac nid iawn curo'r bonheddig.
27 Y mae'r prin ei eiriau yn meddu gwybodaeth, a thawel ei ysbryd yw'r deallus.
28 Tra tawa'r ffu373?l, fe'i hystyrir yn ddoeth, a'r un sy'n cau ei geg yn ddeallus.